09/17/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Taith gerdded ‘Ar Gered’ yn ardal Tre’r Ddôl

A ydych chi wedi cerdded i Fedd Taliesin? Dyna wnaeth 22 o gerddwyr egnïol ddydd Sadwrn Ionawr 15 Ionaw 2022 wrth i Cered gynnal y cyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded cyfrwng Cymraeg yn ardal Y Topie sy’n dwyn yr enw ‘Ar Gered’.

Taith gylchol o bum milltir oedd hon o Cletwr, Tre’r Ddôl a dan arweiniad Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered cafwyd daith llawn golygfeydd godidog o fynydd a môr gyda Chader Idris, Y Tarrenau ac aber Afon Dyfi i’w gweld yn glir.

Cafodd ambell hanes a chwedl eu rhannu megis hanes y diwydiant creu hetiau, a chwedlau Bedd Taliesin ac Ogof Morris. Mae Ogof Morris wedi ei leoli ar lethrau’r Foel Goch uwchben Tre’r Ddôl ac mae rhai o’r farn taw dyma oedd cuddfan Morris – lleidr anenwog lleol a grogwyd yn Aberteifi.

Nod ‘Ar Gered’ yw creu cyfle cymdeithasol newydd i drigolion gogledd Ceredigion a thu hwnt i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddarganfod ardal Y Topie sydd mor brydferth a mor ddiddorol ar gyfer cerdded ond sydd yn anghyfarwydd i lawer.

Mae’r teithiau yma yn croesawu siaradwyr Cymraeg o bob gallu boed yn ddysgwyr neu yn siaradwyr rhugl a braf oedd clywed cymaint o sgyrsiau cyfeillgar a naturiol rhwng siaradwyr Cymraeg profiadol a siaradwyr mwy newydd.

Dyma ddywedodd un o’r cerddwyr sef Martin Davis o Dre Taliesin:

“Rydyn ni’n crwydro’r ffyrdd yma ers degawdau ond roedd y daith yn brofiad ffres iawn rhywsut – yn gweld yr hyn sydd ar garreg y drws drwy lygaid pobl eraill a chael ein hatgoffa eto pa mor lwcus ydyn ni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant:

“Mae ‘Ar Gered’ yn gyfle cyffrous i bobl ddod i adnabod eu hardaloedd lleol, sgwrsio yn Gymraeg a dysgu am hanes encilion bach o Geredigion – dyma gyfle gwych i ddod i adnabod ardal, iaith a chwrdd â phobl newydd.”

Bydd taith nesaf Ar Gered yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 19 Chwefror 2022 ac yn cychwyn yng Nglandyfi cyn dilyn llwybrau bach pert er mwyn dysgu mwy am Ffwrnais Dyfi, cael blas ar hyfrytwch Cwm Einion a gweld un o olygfeydd gorau’r ardal sef yr olygfa o ben y Foel Fawr.Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y daith c ar steffan.rees@ceredigion.gov.uk

%d bloggers like this: