04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda i agor

YN unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru, bydd Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn agor ei drysau i ymwelwyr am y tro cyntaf yn 2021 ddydd Mawrth, 18 Mai.  Mae modd cadw lle ar-lein neu drwy ffonio’r Parc Treftadaeth dydd Mawrth-dydd Sadwrn, 9am-5pm.

Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau bod modd i’r atyniad unigryw ailagor mewn ffordd ddiogel sy’n cadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol ac sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau COVID-19 diweddaraf. Yn ogystal â hyn, mae’r atyniad wedi cael ei gwobrwyo â Safon “We’re Good to Go” gan Visit Britain, sy’n rhoi hyder i ymwelwyr bod prosesau clir ar waith, sy’n cadw at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Oherwydd rheoliadau COVID-19, bydd y safle’n gweithredu ar gapasiti llai, gydag un daith yn digwydd bob awr rhwng 10am a 3pm. Dim ond tocyn i deulu neu deulu estynedig y bydd modd ei brynu ar gyfer pob taith yn unol â’r rheoliadau cyfredol. Mae’n bwysig gwybod mai’r nifer lleiaf o bobl sy’n cael bod yn rhan o daith ydy dau a’r uchafswm ydy wyth.

Yn gyn-lowyr a weithiodd yn ein pyllau yn fechgyn a dynion ifainc, dydy’n tywyswyr ni ddim yn gallu aros i gyfarch ymwelwyr eto.

Maen nhw’n edrych ymlaen at roi helmed glöwr ar eich pennau chi a mynd â chi ar daith o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser, gan archwilio’n treftadaeth ddiwydiannol anhygoel a’r effaith enfawr a wnaethon ni ar y byd.

Unwaith eto, bydd Pete, Tony a Graham yn rhannu eu straeon personol a’u hatgofion am sut brofiad oedd gweithio yn y pyllau glo a sut beth oedd bywyd i’w teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Byddan nhw’n dathlu’r effaith enfawr a gawson ni ar y byd, sut gwnaethon ni gyfrannu at ddiwydiant byd-eang gydag “aur du”, gan ddarparu tanwydd i’r Titanic a thanio’r chwyldro diwydiannol ledled y byd.

Daliwch eich gafael yn dynn wrth i chi fynd ar DRAM!, profiad sinematig lle rydych chi’n reidio’r dram olaf o lo at wyneb y pwll.

Archwiliwch ein harddangosfeydd diddorol, gan gynnwys arteffactau go iawno’r gorffennol a chasglu cofrodd o’n siop anrhegion.

Dewch i gwrdd â Jo Bach y Glöwr, a fydd yn dweud popeth wrthych chi am ei ddiwrnod cyntaf erioed yn löwr yn 12 oed. Mae ei stori wedi’i seilio ar straeon gwirioneddol yr holl fechgyn a aeth i weithio dan ddaear pan oedden nhw mor ifanc.

Mae Caffe Bracchi yn dathlu’r siopau coffi traddodiadol a’r parlyrau hufen iâ a agorodd ar draws Rhondda Cynon Taf gan ymfudwyr o’r Eidal a heidiodd i’r ardal i weithio yn ein diwydiannau.

Mae yno ystod wych o fyrbrydau, prydau bwyd a diodydd poeth ac oer ac mae’r cacennau sydd ar gael yn anhygoel. Cymerwch ddarn i fynd gartref gyda chi, neu o 18 Mai dewch i fwyta dan do.

Neu ewch i ymweld â Chocolate House, siop siocled anhygoel ar y safle, lle mae modd i chi brynu danteithion a phethau bach melys.

Os ydych chi’n un sy’n hoffi crefft, yna fe fyddwch chi wrth eich bodd â Craft of Hearts.  Yma, mae ystod enfawr o eitemau a chyflenwadau hanfodol ar werth a, phan fydd yn ddiogel gwneud hynny, mae Craft of Hearts yn cynnal gweithdai.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Rwy’n falch iawn o gadarnhau fod modd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ailagor ei ddrysau i ymwelwyr ddydd Mawrth nesaf, 18 Mai.

“Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar fywydau pob un ohonom, ac mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod modd i letygarwch dan do ailagor o ddydd Mawrth, 18 Mai yn gam arall i’r cyfeiriad cywir yn dilyn y cynnydd rhagorol wrth leihau cyfraddau COVID-19 dros y misoedd diwethaf.

“Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn paratoi’r atyniad poblogaidd i ailagor mewn modd diogel, ac rwy’n siŵr nad yw’n tywyswyr teithiau gwych yn gallu aros i groesawu ymwelwyr yn ôl i roi cipolwg iddyn nhw o fywyd glöwr a’r oes ddiwydiannol a oedd modd ffurfiannol i lawer o’n cymunedau.”

Mae ardal chwarae’r Parth Ynni ar gau ar hyn o bryd.

 

%d bloggers like this: