04/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymestyn ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion tan 16 Gorffennaf

BYDD ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion Cymru 2018 yn cael eu hymestyn tan ddiwedd tymor yr haf i sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud.

Cyfarfu Bwrdd Gweithredol y cyngor heddiw (dydd Llun, 1 Mawrth) ac mae wedi penderfynu ymestyn y cyfnodau ymgynghori ar gyfer yr ymgyngoriadau canlynol tan ddydd Gwener, 16 Gorffennaf:

• Cynnig i adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian

• Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11

• Cynnig i adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe

• Cynnig i ad-drefnu ac ailfodelu’r gwasanaethau cymorth ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc

• Cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin

Mae’n dilyn Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i’r Cyngor Llawn ar 10 Chwefror ynghylch a yw’n briodol ymgynghori ar ddarpariaeth addysg yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau anstatudol newydd ar arferion gorau o ran ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig lle mae’n argymell y dylid ymestyn cyfnodau ymgynghori i ganiatáu i gynifer o bobl â phosibl ystyried y cynnig a dweud eu dweud.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’n rhaid i ni gofio nad yw’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws yn golygu nad yw cynigion statudol ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn gallu mynd rhagddynt. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried goblygiadau’r cyfyngiadau hynny a chymryd pob cam posibl i sicrhau bod ymgyngoriadau’n deg ac yn gynhwysol gan gydnabod yr amgylchiadau unigryw y maent yn digwydd ynddynt yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Cyhoeddwyd y canllawiau anstatudol gan Lywodraeth Cymru ddau ddiwrnod ar ôl i ni basio’r Rhybudd o Gynnig yn y cyngor llawn. Maent yn dweud lle y bo’n bosibl y dylem ystyried a ddylid gohirio ymgyngoriadau neu ymestyn yr amserlen i ganiatáu i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud. Er nad yw’n ofynnol i ni gynnal cyfarfodydd ymgynghori, mae’r côd hefyd yn cydnabod y gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i rannu gwybodaeth ac i bobl fynegi eu barn.

“Fel cyngor rydym yn annog pobl i fynd i sesiynau ‘galw heibio’ a chyfarfodydd rhithwir ac wrth gwrs gallant ysgrifennu atom a’n ffonio’n uniongyrchol. Mae’r canllawiau yn dweud y dylem gymryd pob cam i oresgyn unrhyw rwystrau i ymgyngoriadau ac fel sir rydym wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, rwy’n cynnig ein bod yn ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer y prosiectau hyn mewn perthynas â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion tan ddiwedd tymor yr haf, hynny yw dydd Gwener 16 Gorffennaf.”

Dywedodd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, y byddai ymestyn y cyfnod ymgynghori tan 16 Gorffennaf hefyd yn rhoi amser i bobl baratoi cynllun busnes arall os oeddent yn dymuno gwneud hynny a gallai swyddogion eu cynghori ar gynnwys gofynnol y math hwnnw o gynllun, er enghraifft, cymuned Mynyddygarreg sydd wedi mynegi eu pryderon.

Eiliodd y Cynghorydd Cefn Campbell gynnig y Cynghorydd Davies gan ychwanegu: “Rwy’n credu ei fod yn gynnig doeth a synhwyrol o dan yr amgylchiadau; mae’r Cynghorydd Davies wedi datgan ein bod wedi dilyn y canllawiau o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion drwy’r amser. Ond mae hyn yn rhoi pob cyfle i rieni a staff a phawb arall roi eu barn. Mae’r ymateb a gawsom hyd yn hyn wedi profi bod ein hymgynghoriad wedi bod yn effeithiol iawn, ond byddai hyn yn caniatáu mwy o amser ac yn dangos ein bod yn barod i fod yn hyblyg hefyd, gan fod y canllawiau wedi newid ers y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol hwnnw.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: “Yng nghyfarfod llawn diwethaf y cyngor dywedais ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a dyna beth rydym yn ei wneud heddiw.”

Bydd yr ymgyngoriadau bellach yn dod i ben ddydd Gwener, 16 Gorffennaf. Os ydych eisoes wedi cyflwyno eich sylwadau, nid oes angen i chi eu hailgyflwyno.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynigion ac i gymryd rhan yn yr arolygon ar-lein, ewch i wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru/ymgyngoriadau

Gallwch hefyd ddweud eich dweud drwy e-bost neu drwy ysgrifennu at y Cyngor os yw’n well gennych. Anfonwch e-bost at aaprma@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 246426 i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw hyn yn effeithio ar ymgyngoriadau eraill sy’n cael eu cynnal ar brosiectau o dan ddeddfwriaeth arall, er enghraifft, o dan broses ffedereiddio canllawiau ysgolion a gynhelir, y Côd Derbyn i Ysgolion a Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.

 

%d bloggers like this: