ER bod mwy na 66,000 o aelwydydd yn Abertawe bellach wedi derbyn taliad Costau Byw o £150 ond amcangyfrifir bod o leiaf 10,000 ar eu colled ar hyn o bryd gan nad ydynt wedi cofrestru eto.
Mae’r grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru’n cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ar draws Cymru.
Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio i gael yr arian i gyfrifon banc pobl cyn gynted â phosib ac mae mwy na £10m wedi’i dalu hyd yn hyn.
Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd cymwys yn Abertawe sy’n talu eu treth y cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ac sy’n byw mewn eiddo Band A i D yn cael eu talu’n awtomatig.
Dylai tua 8,000 o aelwydydd sydd wedi derbyn Grant Tanwydd Gaeaf yn flaenorol gan Gyngor Abertawe fod wedi derbyn y taliad hefyd.
Mae angen i ddeiliaid tai eraill sy’n byw mewn eiddo Band A i D neu’r rheini sy’n byw mewn unrhyw eiddo band sy’n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor ar sail prawf modd gofrestru ar gyfer y grant erbyn dydd Gwener 30 Medi 2022.
Mae llawer wedi gwneud hynny ond anogir y rheini nad ydynt wedi i wirio’u cymhwysedd a chofrestru yn: www.abertawe.gov.uk/taliadcymorthcostaubyw
Gall y rheini nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur neu sydd heb berthynas neu ffrind i helpu drefnu apwyntiad drwy ffonio 01792 636311 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m