04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gallai hyd at 45% o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd

MAE Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi lansiad cynllun talebau tanwydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu cymorth argyfwng i’r aelwydydd hynny sy’n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni ac sy’n methu gwneud hynny.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol, yn enwedig ar aelwydydd ar incwm isel. Mae’r amcangyfrifon presennol yn awgrymu y gallai hyd at 45% o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd i’r cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill. Bydd hyn yn gwaethygu ym mis Hydref pan ddaw’r cynnydd nesaf i’r cap ar brisiau ynni i rym.

Effeithiwyd yn arbennig ar aelwydydd sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Mae’r rhai sy’n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn talu tariff drutach o’i gymharu â mesuryddion credyd safonol. Mewn rhai achosion, mae taliadau sefydlog a ddyblodd ym mis Ebrill yn parhau i gronni pan fydd deiliaid tai yn hunan-ddatgysylltu am eu bod yn pryderu am gostau ynni.

Nid yw aelwydydd sy’n ei chael yn anodd talu costau ynni wedi’u cyfyngu i filiau ynni domestig trydan a nwy o’r prif gyflenwad. Yng Nghymru, mae tua un o bob deg aelwyd yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy hylifedig ar gyfer eu gofod domestig a gwresogi dŵr. Mewn ardaloedd gwledig, mae hyn yn cynyddu i 28% o aelwydydd. Mae’n rhaid i’r aelwydydd hyn hefyd dalu ymlaen llaw am eu tanwydd. Mae llawer wedi nodi bod cost olew gwresogi wedi mwy na dyblu dros y ddau fis diwethaf ac mae adroddiadau yn nodi bod cyflenwyr yn gwrthod darparu dyfynbrisiau ar gyfer danfoniadau olew, gan bennu’r pris ar y diwrnod y bydd yn cael ei ddanfon.

Mae’r cynllun Cynllun Talebau Tanwydd yn darparu talebau i gwsmeriaid sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a bydd gwasanaeth argyfwng newydd yn cael ei lansio ar gyfer aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy, ac nad ydynt yn gallu fforddio prynu poteli nwy neu lenwi eu tanc olew, eu storfa goed neu eu byncer glo.

Er mwyn bod yn gymwys, bydd aelwydydd yn cael eu hatgyfeirio am gymorth gan un o rwydwaith o bartneriaid atgyfeirio. Rhaid iddynt fod mewn argyfwng ariannol dwys ac mewn perygl uniongyrchol o hunan-ddatgysylltu, neu yn wir eisoes wedi hunan-ddatgysylltu, neu’n gwneud dewisiadau a allai achosi niwed sylweddol i sicrhau bod ynni’n cael ei ariannu.

Bydd y cynllun yn cael ei reoli gan y Sefydliad Banc Tanwydd, elusen genedlaethol sydd wedi darparu cefnogaeth yng Nghymru ers 2015. Mae eu gwasanaeth hyd yma wedi canolbwyntio ar wyth canolfan Banc Tanwydd sy’n cael eu hariannu drwy gymysgedd o roddion lleol ac ymgyrchoedd codi arian canolog gan y Sefydliad Banc Tanwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyfarnu cyfanswm o £3.952m o gyllid grant i’r Sefydliad Banc Tanwydd i’w helpu i ehangu ei weithrediad yng Nghymru fel y gall ddod yn gynllun cenedlaethol. Bydd y cyllid yn rhoi sicrwydd i ganolfannau presennol y sefydliad y gall eu gwasanaethau barhau. Bydd hefyd yn helpu i sefydlu banc tanwydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Cyflawnir hyn drwy ehangu’r rhwydwaith presennol gyda thua 40-50 o bartneriaid newydd a fydd yn cynyddu ôl troed y cynllun presennol yn sylweddol. Bydd y rhwydwaith hwn o bartneriaid yn galluogi’r sefydliad i ddosbarthu tua 49,000 o dalebau (naill ai £30 yn ystod misoedd yr haf neu £49 yn y gaeaf) i aelwydydd sy’n talu ymlaen llaw ledled Cymru ac sydd mewn perygl o ddatgysylltu, gan roi cymorth i tua 117,000 o unigolion (yn dibynnu ar faint yr aelwydydd). Bydd uchafswm o dair taleb i bob aelwyd mewn cyfnod o chwe mis ond mae gan bartneriaid atgyfeirio rywfaint o ddisgresiwn.

Bydd y cyllid hefyd yn darparu cymorth o dan gynllun ‘Cronfa Wres’ y Sefydliad Banc Tanwydd i helpu 2000 o aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy ac sy’n dibynnu ar olew gwresogi a nwy hylifedig heb eu rheoleiddio ar gyfer eu gofod domestig a gwresogi dŵr. Bydd hyn o fudd i tua 4,800 o unigolion, yn dibynnu ar nifer y bobl sy’n byw ar yr aelwyd.

Bydd y cyllid hefyd yn ariannu’r gwaith o ehangu’r rhwydwaith partneriaid i roi cyngor cofleidiol ar ynni ac arbedion er mwyn osgoi dibyniaeth a cheisiadau niferus am gymorth, gan gynnwys atgyfeirio ymlaen fel y bo’n briodol. Bydd swyddogion yn sicrhau bod y Sefydliad Banc Tanwydd yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr y Gronfa Gynghori Sengl.

Er bod trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i alluogi’r canolfannau newydd i ddod yn weithredol – rydym yn disgwyl y bydd y rhain yn agor yn yr hydref – gall pobl sy’n ei chael yn anodd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw siarad ag Advice Link Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Mae ein Cronfa Cymorth Dewisol hefyd ar gael i’r rhai sy’n profi pwysau ariannol eithafol.”

%d bloggers like this: