04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£380m i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yng Nghymru

MAE’R Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn nodi y byddwn yn 2022-2023, yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw. Ac wrth i’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol a’r cap ar bris ynni wthio pobl yn bellach i sefyllfa o galedi, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi rhoi manylion y pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae nhw hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Er gwaethaf galwadau eang ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gefnogaeth drwy ddatganiad y gwanwyn i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu cost cynyddol biliau eu haelwyd, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o ddim ond £27 miliwn yng nghyllid adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob aelwyd ar draws Cymru, ac mae’n warthus bod gennym bobl sy’n gorfod wynebu’r penderfyniad torcalonnus i naill ai wresogi eu cartrefi, neu i brynu bwyd. Mae hyn yn hollol annerbyniol yn ein cymdeithas fodern. Pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’r broblem, byddem yn gweld atebion go iawn ac nid dim ond geiriau gwag am godi’r gwastad, pan ei bod yn glir i bawb mai gostwng y gwastad y maen nhw mewn gwirionedd.

Er gwaethaf y diffyg cymorth ac arweinyddiaeth gan San Steffan, rydym ni yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gyda’r pwerau sydd gennym, i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau, y trydydd sector ac arweinwyr cymunedol i ddatblygu cyfres o becynnau cymorth wedi’u targedu, er mwyn helpu rywfaint ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i ddelio gyda’r argyfwng costau byw.”

Mae y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi amlinellu pecyn cymorth gwerth £380m y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu, gan gynnwys y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf a’r taliad Costau Byw

Meddai y Gweinidog:

“Ers mis Tachwedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £380 miliwn mewn pecyn cymorth i aelwydydd incwm isel i helpu gyda’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf lle darparwyd taliad o £200 i aelwydydd cymwys i helpu i dalu cost biliau hanfodol dros gyfnod y gaeaf. Bydd cyllid hefyd ar gael i gefnogi cynllun cymorth tanwydd arall ar gyfer y gaeaf. Rydyn ni hefyd yn ystyried sut y gall y cynllun gyrraedd mwy o aelwydydd fel bod mwy o bobl yn cael y taliad o £200.

Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu i ariannu taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo sydd ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy’n derbyn cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor. Yn ogystal, mae £25m arall ar gael i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol. Maent yn gallu targedu’r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd sy’n cael trafferthion.

Fel rhan o gyllideb derfynol 2022-23, mae £15m arall ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol fydd yn cefnogi’r rheini sy’n wyneb pwysau ariannol difrifol, gan ymestyn y cymorth ychwanegol tan ddiwedd mis Mawrth 2023.”

Yn olaf, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd iawn ar hyn o bryd a chymryd y camau sydd eu hangen i feithrin gwydnwch yn ein cymunedau. Rwy’n falch o gael cynnal ail uwchgynhadledd ar gostau byw yn yr haf pan fyddwn yn ystyried eto a oes mwy y gallwn ei wneud, drwy weithio gyda phartneriaid, i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae’r argyfwng presennol wedi tynnu sylw atynt.

Er gwaetha diffyg arweinyddiaeth lwyr ac unrhyw weithredu go iawn gan San Steffan, byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau i gyflawni ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

%d bloggers like this: