03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Adolygiad annibynnol o lifogydd i helpu Cymru i addasu i newid hinsawdd

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 wedi’i lansio.

Dan arweiniad un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r DU, bydd yr adolygiad yn helpu i sicrhau bod Cymru’n dysgu o ddigwyddiadau llifogydd blaenorol ac yn ymgorffori arferion da ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr adolygiad, sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag adroddiadau perthnasol eraill.

Ers i Storm Dennis greu llanastr ledled y wlad ym mis Chwefror 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd cyflym o ran amlder stormydd a llifogydd nag ar unrhyw adeg arall a gofnodwyd mewn hanes.

Mae glaw trwm a stormydd yn debygol o ddigwydd yn amlach o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penodi’r Athro Elwen Evans CF, un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r DU, i arwain yr adolygiad.

Bydd yr Athro Evans yn gyfrifol am sefydlu canfyddiadau allweddol, pryderon a rennir, gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arferion da, yn ogystal â nodi meysydd i’w gwella.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae’r llifogydd ofnadwy a welsom yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil newid hinsawdd. Mae tywydd difrifol fel hyn sy’n digwydd yn fwyfwy aml yn creu trawma, colledion ariannol ac yn tarfu’n helaeth ar deuluoedd a busnesau.

Rydym wedi rhoi strategaeth llifogydd drylwyr ar waith ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y pecyn buddsoddi mwyaf erioed i leihau’r perygl o lifogydd ledled Cymru, gyda mwy na £214m dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd.

Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o ddigwyddiadau blaenorol i’n paratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy’n falch iawn bod yr Athro Evans, sy’n dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol, wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol.”

Meddai yr Aelod Dynodedig Sian Gwenllian, Plaid Cymru:

“Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar ein cymunedau a’n busnesau. Ochr yn ochr â gweithredu ar newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan i fynd i’r afael ag ef, bydd mynd ati i atal llifogydd a dysgu o lifogydd dinistriol 2020-21 yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch a thawelwch meddwl pobl ledled Cymru.

Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos i ddatblygu cwmpas a dull gweithredu’r adolygiad pwysig hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canfyddiadau.

Mae’r cyhoeddiad am yr adolygiad annibynnol yn dilyn y buddsoddiad mwyaf erioed o £214m mewn perygl llifogydd, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn diogelu o leiaf 45,000 o gartrefi.

Bydd hyn yn cefnogi Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd, yn cyflymu’r broses o gyflawni cynlluniau atal, ac yn meithrin gwydnwch yn y system wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddwysáu.”

%d bloggers like this: