O GANLYNIAD i’r cyfraddau heintiau cyfredol yn y sir a’r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod a dyddiad ailagor y ddarpariaeth chwaraeon dan do a gweithgaredd corfforol yng nghyfleusterau a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion ymlaen.
Dyma’r amserlen wedi ei ddiweddaru.
Cerdded er Lles – 17 Mai;
Dosbarthiadau Ymarfer Corff Awyr Agored; Defnydd sefydliadau cymunedol o Gyfleusterau Awyr Agored gan gynnwys Caeau Pob Tywydd (Llambed, Ysgol Bro Teifi a Synod Inn) a Meysydd Chwarae – 28 Mai; a hefyd
Cyfleusterau Hamdden Dan Do; Canolfan Hamdden Aberaeron; Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan; Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan; a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais gan gynnwys defnydd gan Sefydliadau Cymunedol – yr wythnos yn dechrau 07 Mehefin ymlaen.
Mae ailagor yn parhau i ddibynnu ar y ffactor nad oes cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn y sir.
Bydd gwybodaeth ar gael ar wefan Ceredigion Actif a thudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.
Mae’r gwaith o datgomisiynu Canolfan Hamdden Plascrug ac ail-adfer y lleoliad fel cyfleuster hamdden wedi dechrau yn dilyn ei ddefnydd fel ysbyty maes. Nid oes dyddiad ar gyfer ei hailagor ar hyn o bryd.
Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Brechu Torfol ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m