03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Amlosgfa yng Nghymru i ddarlledu gwasanaeth arbennig ar gyfer Sul y Mamau

BYDD cyfyngiadau symud yn dal i fod ar waith yn ystod Sul y Mamau, ond mae Westerleigh Group yn benderfynol o wneud yn siŵr bod teuluoedd yn gallu dathlu eu hanwyliaid.

Bydd gwasanaeth Sul y Mamau arbennig yn cael ei ddarlledu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac ar wefannau ei holl amlosgfeydd ddydd Sul, 14 Mawrth.

Cynhelir y gwasanaeth yn Amlosgfa Dyffryn Sirhywi sydd newydd agor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yng Nghymru, ond bydd yn cael ei rannu â 34 o safleoedd eraill ledled y wlad sy’n cael eu rhedeg gan Westerleigh Group, sef perchennog a gweithredwr amlosgfeydd a mynwentydd annibynnol mwyaf y DU, gan gynnwys ei safleoedd eraill yng Nghymru, sef amlosgfeydd Aberystwyth, Llanelli a Langstone Vale.

Yn ystod gyfnod y Nadolig, edrychodd oddeutu 11,000 o bobl ar wasanaethau coffa’r Nadolig a oedd ar gael yn ddigidol oherwydd bod cyfyngiadau’r pandemig yn atal pobl rhag dod i’r seremonïau yn bersonol yn ôl yr arfer.

Yn awr, mae Westerleigh Group yn dymuno gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cofio a dathlu eu mamau hefyd, gyda gwasanaeth arbennig a fydd yn dechrau gyda chroeso oddi wrth Brif Swyddog Gweithredol y grŵp, Roger Mclaughlan.

Disgwylir i’r gwasanaethau bara oddeutu 45 munud a byddant yn cynnwys gweddïau, emynau a darlleniadau.

Dywedodd Mr Mclaughlan: “Gall Sul y Mamau fod yn gyfnod enwedig o ingol i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Bydd cyfyngiadau symud yn atal llawer o bobl rhag cofio eu mamau yn y ffordd y byddent yn dymuno gwneud hynny, ac ni fydd teuluoedd yn cael ymgynnull fel y gallent fod wedi gwneud fel arall.

“Dyna pam yr oedden ni’n dymuno darparu’r gwasanaeth Sul y Mamau hwn, er mwyn dod â rhywfaint o gysur i bobl ac i’w galluogi nhw i deimlo eu bod nhw’n anrhydeddu eu hanwyliaid colledig mewn ffordd arbennig.

“Roedd ein gwasanaethau coffa’r Nadolig, a gafodd eu ffrydio ar-lein ym mis Rhagfyr, yn boblogaidd iawn ac fe gawsom sylwadau cadarnhaol iawn, felly rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yr un mor fodlon â’n gwasanaeth Sul y Mamau.”

Dangosir y gwasanaeth ddydd Sul, 14 Mawrth, am 11am a gellir dod o hyd iddo drwy ddolenni ar wefannau ei amlosgfeydd:
www.aberystwythcrem.co.uk
www.langstonevalecrematorium.co.uk
www.llanellicrematorium.co.uk
www.sirhowyvalleycrem.co.uk

Bydd ar gael i’w weld wedyn hefyd ar sianel Youtube Westerleigh Group.

%d bloggers like this: