03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Annog grwpiau ymgeisio am gyllid gyfer prosiectau gweithgareddau cadw’n iach

MAE grwpiau cymunedol ym Merthyr Tudful yn cael eu hannog i ymgeisio am hyd at £5,000 o ddau gynllun grant lleol.

Cafodd Cronfa Buddiannau Cymunedol Ffos-y-fran ei sefydlu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ar y cyd â chwmni glofaol lleol Merthyr (South Wales) Limited.

Mae’n cyfrannu £1 o bob tunnell o lo sydd yn cael ei werthu o gynllun adfer tir Ffos-y-fran ac ers i’r safle agor yn 2007, mae dros £6 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i amrywiaeth eang o grwpiau ac achosion.

Mae Cynllun Grant Canolradd Ffos-y-fran yn dyfarnu grantiau o hyd at £5,000, ddwywaith y flwyddyn ac mae’r Cynllun Grantiau Bychan o hyd at  £1,000 yn cael ei redeg trwy gydol y flwyddyn ac ar gael i’w ddefnyddio trwy gynghorwyr lleol.

Mae’r rhaglen yn agored i bob grŵp cymunedol sydd yn cynnig prosiectau amgylcheddol, addysgol neu hamdden lleol sydd yn cynorthwyo i greu ‘economi gref, gynaliadwy ac amrywiol,’ ac yn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau newydd.

“Wedi effaith y pandemig, fodd bynnag a’r modd y mae pobl wedi colli eu cyfleoedd arferol i ymarfer, byddwn yn croesawu grwpiau a fydd yn hybu bywydau iach a gweithgaredd corfforol yn bennaf,’ dywedodd y Cynghorydd Alyn Owen, Dirprwy Prif Weithredwr y Cyngor.

Mae Sefydliadau a chlybiau sydd wedi derbyn cymorth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys  Clwb Pêl-droed Bedlinog, Clwb Triathlon Merthyr, Clwb Bechgyn a Merched Penydarren, 4ydd Sgowtiaid Merthyr, Pobl gyda’i Gilydd Treharris, Grŵp Cymorth Osteoporosis, Côr Meibion Ynysowen, Clwb Ffotograffiaeth Ar Agor a Chlwb Radio Amatur Cwm Taf.

Mae grantiau ar gyfer costau refeniw/cyfalaf ac mae arian cyfatebol yn ofyniad ar gyfer y Gronfa Ganolradd, naill ai drwy gyfraniadau ariannol neu mewn nwyddau.

Mae ceisiadau ar gyfer y Grant Canolradd ar agor o 1 Ebrill a’r dyddiad cau yw 14 Mai 2021.

 

%d bloggers like this: