04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

ARC yn cefnogi preswylwyr gyda materion iechyd meddwl

GYDOL y pandemig, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi gorfod addasu’r ffordd y maent yn cefnogi pobl sydd angen help.

I oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cynnig y gwasanaeth Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned (ARC) ar y cyd â’r cyngor.

Mae ARC yn cynnig cefnogaeth ymatebol a hygyrch sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n cael profiad o faterion iechyd meddwl neu les emosiynol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ataliol, cyfeirio at gyngor a chanllawiau, cefnogaeth tymor byr, therapi galwedigaethol, cynllunio gweithgareddau, cefnogaeth a chyngor cyflogaeth a chymorth cymdeithasol.

Gall pobl gael mynediad i’r gwasanaeth cyngor ac arweiniad heb fod angen atgyfeiriad, ac mae’n gweithredu fel man cyswllt i sefydliadau cymunedol ac asiantaethau sydd angen gwybodaeth i gefnogi unigolion. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau trydydd sector lleol, cyflogwyr a cholegau.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i unigolion wella eu hiechyd meddwl a lles, gwella eu ffyrdd o fyw a’r ffordd y maent yn delio â phethau ac annibyniaeth drwy adnoddau cymunedol presennol.

Mae gan ARC weithwyr cymorth a therapyddion galwedigaethol sy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr o ystod o wasanaethau cymorth iechyd meddwl, sydd fel arfer yn gweithio yn yr un adeilad.

Mae wedi parhau i gynnig gwasanaethau gydol y pandemig Covid-19, gan roi cefnogaeth drwy gyswllt dros y ffôn a galwadau fideo, ochr yn ochr ag ychydig o gysylltiadau cymunedol a gafodd eu cynnal yn unol â’r cyfyngiadau.

Yn gyson gyda blynyddoedd blaenorol, y cyflyrau a adroddwyd amdanynt fwyaf aml oedd gorbryder, straen a hwyliau isel, a nodwyd mai’r prif achosion oedd yn cyfrannu at hyn oedd materion teuluol a pherthynas, ac yna materion iechyd, trawma, profedigaeth a straen yn y gwaith. Cynyddodd canran y bobl wnaeth nodi Covid-19 fel achos o orbryder yn ystod y trydydd chwarter.

Mae gwasanaethau ARC yn cynnwys cymorth cyflogaeth, sy’n cynnwys help i bobl ddi-waith i deimlo’n barod i ddod o hyd i waith, neu i gysylltu gyda chymorth cyflogaeth, yn ogystal â chyngor i’r rheiny sy’n ddi-waith er mwyn eu helpu i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i’r gweithle.

Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cynnwys modiwlau hunangymorth ag arweiniad, ymgysylltiad â chyflogwyr, gwasanaeth gwrando a chysylltiadau ag adnoddau eraill.

Cyflwynwyd Tickety Boo – grŵp cymorth iechyd meddwl amenedigol – ychydig cyn i gyfyngiadau Covid-19 gael eu rhoi ar waith, a chafodd ei gynnal drwy gefnogaeth dros y ffôn. Disgwylir i sesiynau wyneb yn wyneb i grwpiau bach ddechrau unwaith y bydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn galluogi hynny.

Mae ARC yn parhau i gynnig cymorth dros y ffôn neu e-bost rhwng 9am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener – ffoniwch 01656 763176 i gael rhagor o wybodaeth.

%d bloggers like this: