04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Seren ‘Britain’s Got Talent’ yn dathlu Gofalwyr Maeth awdurdodau lleol ar draws Cymru

MAE Nathan Wyburn, seren ‘Britain’s Got Talent’, eisiau bwrw goleuni ar waith gofalwyr maeth traws Cymru. Yn Blaenau Gwent, bydd y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy yn cael eu goleuo yn lliw oren yn ystod Bythefnos Gofal Maeth.

Er y bu gan lawer ohonom berthnasau a chyfeillion i’n cefnogi yn ystod y cyfnod anodd a wynebwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o blant a phobl ifanc ar draws Cymru fwy o angen y cymorth hwnnw nag erioed o’r blaen.

Nawr, gyda dechrau’r Bythefnos Gofal Maeth – ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth a recriwtio a gaiff ei rhedeg gan y Rhwydwaith Maethu, mae Blaenau Gwent yn galw ar fwy o bobl i ystyried maethu.

Gyda thema eleni o ‘#Gofalwn’ mae Nathan Wyburn, artist o Gymru sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi cynhyrchu darn yn defnyddio goleuadau LED i helpu profi sut gall unrhyw dŷ ddod yn gartref diogel a chariadus.

Dywedodd Nathan:

“Anfonwyd cerdd ataf sy’n cwmpasu popeth a wnaiff gofalwyr maeth i roi dyfodol disglair i blant ar draws Cymru ac roeddwn eisiau creu rhywbeth sy’n dathlu’r ffordd maent yn agor y drysau i’w cartrefi a’u calonnau.

“Dewisais droi’r geiriau hynny yn ddarn o gelf gyda darn sy’n rhoi sylw i gartref fel bod y golau llythrennol ar ben draw’r twnnel ar gyfer plant a phobl ifanc.

“Rwy’n credu mai un o’r camsyniadau mwyaf am faethu yw fod yn rhaid i chi gael tŷ mawr gyda gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – a dydy hynny ddim yn wir.

Mae fideo yn dangos y darn yn cael ei gynnull dros gyfnod a’r gerdd wedyn yn cael ei osod arno yn dangos sut mae cyd-destun y gelf yn aneglur. “Dim ond pan gaiff y goleuadau eu troi ymlaen y mae eglurdeb,” medai Nathan.

“Ymdeimlad o bosibilrwydd a chadarnhad yn dangos trwodd”.

Nawr gofynnir i bobl ar draws Blaenau Gwent ddangos eu cefnogaeth i’r Bythefnos Gofal Maeth drwy roi lamp yn eu ffenestr flaen ddydd Iau nesaf (20 Mai) i ‘fwrw goleuni’ ar waith gofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac yn dathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Caiff adeiladau ar draws Cymru, yn cynnwys y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy, hefyd eu goleuo mewn oren i dynnu sylw at eu gwaith hynod.

Dywedodd y Cyng. John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Blaenau Gwent:

“Fedrwn i ddim bod yn falchach o’n Gofalwyr Maeth yma ym Mlaenau Gwent, yn arbennig drwy’r cyfnod heriol a effeithiodd ar bawb ohonom y llynedd. Thema ymgyrch eleni yw #Gofalwn a gallaf ddweud wrthych drosof fy hyn ar ôl cwrdd â rhai o’r gofalwyr gwych a’r plant mewn digwyddiadau maethu blaenorol, ei bod yn cynhesu’r galon  i weld y cysylltiadau personol iawn sydd wedi eu meithrin rhyngddynt.

Rwy’n credu y bydd Bythefnos Gofal Plant © 2021 yn rhoi mwy o gefnogaeth i’r gymuned faethu drwy roi llais iddynt rannu eu taith faethu gyda ni.

Gofynnaf i chi gyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer y Bythefnos Gofal Maeth ©, a thrwy gynyddu ymwybyddiaeth gobeithiwn y gallwn annog mwy o bobl i feddwl am ddod yn Ofalwyr Maeth.”

Bydd Blaenau Gwent yn rhannu cynnwys ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y Bythefnos Gofal Maeth © i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Os credwch y gallech wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwr maeth ym Mlaenau Gwent ewch i https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/health-wellbeing-social-care/fostering/ ffonio 1495357792 or 01495356037 neu anfon e-bost at FOSTERING@blaenau-gwent.gov.uk

https://www.facebook.com/blaenaugwentcbc/videos/465447581195734
https://twitter.com/i/status/1391705302018494469

%d bloggers like this: