04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Artistiaid tywod enwog yn creu hediad aderyn ysglyfaeth y ‘Barcut Coch’ o Gymru i Iwerddon ar yr un pryd

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a lansiad Wythnos Cymru gyntaf erioed Iwerddon (9-13 Mawrth), mae artistiaid enwog o Iwerddon a Chymru, Sean Corcoran a Marc Treanor, wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf erioed i greu gwaith celf ar lannau’r ddwy wlad.

Mae pob darn o gelf tywod yn dangos aderyn y Barcut Coch, sy’n cael ei ystyried yn aml fel aderyn cenedlaethol Cymru, i gynrychioli’n symbolaidd y cysylltiad diwylliannol rhwng y ddwy genedl.

Creodd Sean Corcoran ei Farcut Coch gan ddefnyddio ei gribin gardd am dros 4 awr ar Draeth Kilmurrin yn Sir Waterford, a chwblhaodd Marc Treanor ei gampwaith ef dros 5 awr ym Mae Whitesands yn Nhyddewi, gan ddefnyddio’r un teclyn ynghyd â thechneg llinyn a brigyn.

Roedd y Barcut Coch yn agos i drengi ond cafodd ei achub rhag ddifodiant cenedlaethol gan un o raglenni gwarchod hynaf y byd ac mae’r rhywogaeth bellach yn ffynnu yng Nghymru ac yn Iwerddon.

Mae’r adar hyn yn cael eu hallforio o Gymru i Iwerddon fel rhan o raglen ailgyflwyno ac mae modd eu gweld yn Iwerddon bellach am y tro cyntaf mewn dros 200 o flynyddoedd.

Comisiynwyd y gwaith celf i ddathlu’r Wythnos Cymru gyntaf erioed yn Iwerddon, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 9 – 13 Mawrth mewn canolfan ddigidol 360 sydd wedi’i chreu’n arbennig yn CHQ yn Nulyn i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol unigryw sy’n bodoli rhwng Iwerddon a Chymru. Bydd y rhaglen yn ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant, cerddoriaeth, iaith a materion ieuenctid ymhlith eraill.

I wybod rhagor am Wythnos Cymru, ewch i https://walesweekdublin.thinkorchard.com/

%d bloggers like this: