09/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Athletwr a dorrodd pob record wedi’i anfarwoli yn enw stryd ym Mae Copr

BYDD enw Cyril Cupid, athletwr o Abertawe a dorrodd pob record, yn cael ei anfarwoli fel rhan o adfywiad Bae Copr yng nghanol y ddinas.

Bydd y cannoedd ar filoedd o bobl a fydd yn ymweld ag arena newydd Abertawe bob blwyddyn yn cerdded ar hyd Cupid Way, sydd newydd ei henwi, rhwng canol y ddinas hyd at y bont dirnod aur newydd cyn cyrraedd yr arena newydd.

Cupid oedd y Cymro cyntaf i redeg 100 llath mewn llai na 10 eiliad ac enillodd gydnabyddiaeth yn y 1930au am ennill nifer o deitlau ar y trac athletau.

Bydd Cupid Way yn dechrau y tu allan i Eglwys y Santes Fair a Chanolfan y Cwadrant ac yn gorffen lle bydd ramp newydd yn mynd â cherddwyr i fyny at y bont newydd. Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r fflatiau newydd sy’n cael eu hadeiladu ar ochr ogleddol Oystermouth Road.

Mae’r bont ei hun yn cael ei rhoi’n ofalus yn ei lle dros nos, nos Sadwrn, a disgwylir iddi gael ei henwi yn ddiweddarach eleni cyn iddi gael ei hagor i’r cyhoedd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Roedd Cyril Cupid yn hanu o Abertawe ac yn fab i Gymraes, Maud Palmer, a thad o India’r Gorllewin a oedd yn gweithio’n lleol yn y fasnach sinc.

“Cyril oedd y Cymro cyntaf i redeg 100 llath mewn llai na 10 eiliad felly, wrth fynd nerth ei draed, byddai wedi llwyddo i gyrraedd pendraw’r bont newydd i gerddwyr 50 metr, mewn tua phum eiliad.

“Mae’r enw Bae Copr yn cysylltu treftadaeth ddiwydiannol falch ein dinas â’i dyfodol beiddgar, uchelgeisiol a gynrychiolir gan yr arena a Bae Abertawe.

“Mae Cyril a’i rieni yn rhan o dreftadaeth ein cymuned a bellach byddant yn rhan o’r hanes newydd rydym yn ei greu gyda’n gilydd drwy drawsnewid canol y ddinas, ei rôl newydd fel cyrchfan o’r radd flaenaf a’r swyddi newydd a ddaw yn ei sgil.

“Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu enwi’r ardal sy’n arwain at yr arena newydd, a fydd yn cael ei defnyddio gan gannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ar ôl un o athletwyr mwyaf ein dinas.”

Ganwyd Cyril George Cupid ym 1908 a daeth yn bencampwr Cymru yn y rasys 100 a 200 llath rhwng 1930 a 1934, gan ennill wyth teitl – pedwar sbrint dwbl yn olynol – gan osod recordiau Cymru o ganlyniad.

Cwblhaodd 100 llath mewn 9.8 eiliad, y Cymro cyntaf i wneud hynny. Cymhwysodd hefyd i fod yn nhîm cyntaf Cymru i gystadlu yng Ngemau’r Ymerodraeth, a elwir bellach yn Gemau’r Gymanwlad, ym 1934. Bu farw ym 1965.

%d bloggers like this: