03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grant o £250k roi hwb i economïau gwledig Abertawe

MAE dros £250k ar gael i gefnogi prosiectau blaengar a arweinir gan y gymuned a fydd yn helpu i roi hwb i ardaloedd gwledig Abertawe.

Bydd rownd gyllido nesaf dan y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP), a reolir gan Gyngor Abertawe, yn agor ar 11 Mawrth ac yn cau ar 14 Ebrill.

Mae y rhaglen yn cefnogi mentrau cymdeithasol, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig i greu prosiectau cynaliadwy sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

Mae grantiau gwerth rhwng £30k a £50k ar gael yn ystod y rownd hon a bydd angen cyflwyno arian cyfatebol gwerth 30% o fewn cyfyngiadau amser penodol.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y cyngor dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad:

“Mae ein hardaloedd gwledig yn hanfodol i’r economi leol ond, fel pob cymuned, maent wedi dioddef yn wael yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Rydym yn bwriadu cefnogi prosiectau cymunedol blaengar a chyffrous sy’n ymgorffori cynaladwyedd a chadernid i helpu cymunedau gwledig i adfer o COVID-19.

“Byddwn yn annog grwpiau a sefydliadau sydd â syniadau a phrosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau gwledig i gysylltu â swyddogion ein prosiect i drafod addasrwydd a chyfle i fod yn bresennol mewn gweminar cyllid o bosib. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau yw 14 Ebrill felly mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb weithredu’n gyflym.”

I wneud cais am sgwrs gychwynnol, e-bostiwch rdpLeader@abertawe.gov.uk ar unrhyw adeg.

Mae’r prosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar yn cynnwys Ardal Natur newydd ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored a gyflwynwyd gan Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt a Thyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig a gyflwynwyd gan Down to Earth.

Mae’r prosiectau hyn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

%d bloggers like this: