03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Blychau nythu i Barc Cwm Darran ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu

Y MIS hwn, mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili wedi rhoi 25 blwch nythu lliwgar i Barc Cwm Darran.

Mae’r rhodd wedi dod mewn pryd ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu sy’n rhedeg o 14 i 21 Chwefror ac yn annog y cyhoedd i greu cartrefi ar gyfer adar sy’n nythu ac yn hyrwyddo materion gwarchod ac amrywiaeth bywyd gwyllt.

Cafodd y 25 blwch nythu eu creu a’u paentio gan blant sy’n gwneud gweithgareddau gwneud iawn gyda’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Canolbwynt y gweithgareddau gwneud iawn yw atgyweirio’r niwed a achoswyd gan ymddygiad y plentyn yn y gymuned.

Mae’r amser a’r ymdrech a gafodd eu neilltuo i greu a phaentio’r blychau nythu nid yn unig yn gyfle i ymddiheuro, ond hefyd yn dysgu sgiliau ac amynedd i blant wrth ddysgu am warchod bywyd gwyllt sy’n dirywio.

Dywedodd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff a Diogelwch y Cyhoedd:

“Mae hwn yn syniad hyfryd gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu. Byddai’r plant yn falch o wybod bod eu gwaith yn cael ei weld a’i fwynhau gan y cymunedau lleol ac yn helpu bywyd gwyllt sy’n dirywio trwy ddarparu safleoedd nythu diogel i adar.”

%d bloggers like this: