04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cabinet Powys ystyried trosglwyddo arian ar gyfer cyfleusterau addysg newydd

FE allai gwaith ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer pedwar cyfleuster addysg newydd ym Mhowys symud gam yn nes os bydd y Cabinet yn cymeradwyo cais i drosglwyddo cyllid, dywedodd y cyngor sir.

Bydd y Cabinet yn ystyried y cais ar ddydd Mawrth 18 Mai.

Mae Cyngor Sir Powys am ddatblygu cyfleusterau newydd fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid addysg ym Mhowys, gan ddarparu cyfleusterau haeddiannol o’r radd flaenaf i ddysgwyr.

Fel rhan o’r cynlluniau, mae’r cyngor am ddechrau gwaith dichonoldeb a gwaith dylunio cysyniadau i’r cynlluniau canlynol:

Cyfleusterau newydd ar safle Ysgol Calon Cymru – Campws Llandrindod;

Campws newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Gwernyfed;

Ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd ym Mhontsenni yn lle’r hen adeilad; a hefyd,

Campws newydd ar safle hen Ysgol Uwchradd Aberhonddu a allai gynnwys ysgol newydd, uned atgyfeirio disgyblion a phwll nofio.

Er mwyn dechrau ar y gwaith dichonoldeb a’r gwaith dylunio cysyniadau i’r pedwar cynllun, gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo cais i drosglwyddo £1.15m i ariannu’r gwaith hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo:

“Un o nodau Gwelediaeth 2025 yw cynnig amgylcheddau addysgu a dysgu o’r safon orau a bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn ein helpu ni wireddu hyn.

“Rydym am gynnig y cyfleusterau gorau i’n dysgwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach a thrwy’r cynlluniau hyn, bydd yn ein helpu ni gyflawni hyn.

“Mae gwaith dichonoldeb a dylunio cysyniadau’r cynlluniau hyn yn hanfodol, nid yn unig i gael manylion mwy cywir i’r cyngor o gostau’r prosiect, ond hefyd i ddatblygu achos busnes er mwyn denu arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.  Ni fydd yr astudiaethau dichonoldeb hyn yn effeithio ar ganlyniad unrhyw gynigion i ad-drefnu ysgolion.

“Rwy’n argymell i’r Cabinet eu bod yn cymeradwyo’r cais i drosglwyddo cyllid ar gyfer y pedwar cynllun hwn er mwyn dechrau’r gwaith dichonoldeb a dylunio cysyniadau a gallu bwrw ‘mlaen gyda’r rhaglen gyffrous i Drawsnewid Addysg.”

 

%d bloggers like this: