04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canmoliaeth i Zach am feddwl yn gyflym

DRWY feddwl yn gyflym a pheidio â chynhyrfu, cynorthwyodd disgybl chwech oed o Rondda Cynon Taf ei fam i’w hatal rhag tagu. Mae ei deulu, ei ffrindiau a’i athrawon i gyd yn hynod falch ohono.

Gwelodd Zachary James, sy’n ddisgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, Llanilltud Faerdref, ei fam yn pesychu ac yn cael trafferth anadlu gartref. Ond roedd yn gwybod ar unwaith beth oedd angen ei wneud i’w chynorthwyo a dechreuodd ddefnyddio’i sgiliau cymorth cyntaf.

Dangosodd Zachary bwyll ac aeddfedrwydd y tu hwnt i’w oed wrth iddo ddechrau taro’i fam, Sadie, ar ei chefn yn galed, gan lwyddo yn y pen draw i ryddhau’r rhwystr a oedd yn ei hatal rhag anadlu’n iawn.

Meddai’r Cynghorydd Susan Morgans, Maer Rhondda Cynon Taf:

“Mae gyda ni ddisgyblion a chyflawnwyr ifainc rhyfeddol ym mhob un o’n hysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol, ac mae Zachary yn sicr yn un o’r rhain.

“Hoffai’r Cyngor ei ganmol am ei sgiliau cymorth cyntaf a’i sgiliau achub bywyd ac yntau mor ifanc, ac rydyn ni’n ei longyfarch yn ddiffuant ar ganlyniad mor gadarnhaol.”

Mae rhieni Zachary, y gweithwyr allweddol Sadie a Tim o Lanilltud Faerdref, yn ddiolchgar iawn i’w mab am yr hyn a wnaeth.

Digwyddodd y ddrama fore Sul, pan oedd Sadie yn yfed paned ac yn methu dal ei hanadl. Aeth i mewn i’r gegin er mwyn ceisio pesychu i gael gwared ar y rhwystr hylifol, a hynny i ffwrdd o Zachary a’i frawd Xavier.

Ond dilynodd Zachary ei fam i’r gegin a gofyn a oedd hi’n iawn. A hithau’n dal i fethu â dal ei hanadl, doedd Sadie ddim yn gallu ateb a sylweddolodd ei mab fod rhywbeth mawr o’i le.

Meddai’r fam falch, Sadie:

“Mae pawb yn ein teulu, yn enwedig fi, mor falch o Zach a’r hyn a wnaeth ar y diwrnod hwnnw. Fe gofiodd imi ddweud wrtho yn y gorffennol mai’r peth gorau i’w wneud os gwelwch rywun yn tagu yw ei daro ar ei gefn.

“Fe geisiodd estyn i fyny er mwyn fy nharo ar fy nghefn ac fe benliniais er mwyn iddo fedru gwneud hynny’n iawn. Codais fy mawd ato ac o’r diwedd teimlais rywbeth yn gwneud clec ac yn rhyddhau yn fy ngwddf, ac roedd modd i fi ddal anadl.

“Rwy wir yn credu bod yr hyn a wnaeth Zach wedi fy helpu yn y sefyllfa frawychus roeddwn i ynddi. Roeddwn i’n poeni y byddwn i’n ei ddychryn gan nad oeddwn i’n gallu siarad, ond arhosodd yn bwyllog iawn drwyddo draw.

“Mae Zach yn gwybod bod yr hyn a wnaeth ar y diwrnod hwnnw yn arbennig iawn. Ar ôl rhoi’r cwtsh mwyaf iddo, mi wnes i ddiolch iddo a dweud wrtho mor falch oeddwn i ohono. Dywedodd wrtha i ei fod eisiau fy achub gan ei fod eisiau i mi fod yma am amser hir.”

Dywedodd Simon Roberts, Pennaeth Ysgol Gynradd Maes-y-bryn:

“Mae’r hyn a wnaeth Zachary y bore hwnnw yn hollol anhygoel, ac mae pawb sy’n gysylltiedig â’n hysgol mor falch ohono.

“Mae’n ddisgybl ifanc rhyfeddol ac yn haeddu’r holl glod sy’n cael ei roi iddo. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd bod ei fam bellach wedi gwella’n llwyr.”

%d bloggers like this: