04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Goleuadau dros dro yn cynnig golwg o ddyfodol Mae Copr

MAE Cyngor Abertawe wedi gosod goleuadau dros dro y tu mewn i bont newydd Bae Copr, rhan o raglen adfywio £1bn a gyflwynir ar draws y ddinas.

Mae’r gosodiad goleuadau dros dro yn cynnwys 26 o oleuadau fflwroleuol tiwb dwbl  wedi’u hatodi i’r to y tu mewn i’r bont ar draws Oystermouth Road. Disgwylir iddynt fod ar waith am sawl mis.

Mae’r cyngor yn gweithio gyda’r rheolwr datblygu RivingtonHark, y penseiri pontydd ACME a’r prif gontractwyr Buckingham Group Contracting Ltd ar y goleuadau dros dro.

Gosodir goleuadau mewnol parhaol yn ei le maes o law. Bydd y rhain yn oleuadau LED ynni effeithlon y gellir eu rhaglennu, a byddant yn goleuo’r bont mewn lliwiau gwahanol; disgwylir iddynt fod ar waith erbyn i’r bont agor yn hwyrach eleni fel rhan o gynllun adfywio Cam Un Bae Copr gwerth £135m.

Meddai Phil HolmesPennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Cyngor,

“Mae’r goleuadau dros dro’n ceisio rhoi cipolwg eang i’r cyhoedd ar sut bydd y bont yn edrych gyda’r hwyr unwaith y bydd Cam Un Bae Copr ar agor.

“Bwriedir gosod y system LED sy’n newid lliw dros y misoedd nesaf, ond roeddem am roi syniad cynnar i bobl ynghylch sut bydd y tirnod newydd hwn ar gyfer y ddinas yn edrych yn y dyfodol.”

 

 

 

 

%d bloggers like this: