04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Casnewydd yn addo cefnogaeth i ‘No Mow May’

MAE Cyngor Dinas Casnewydd wedi addo ei gefnogaeth i ymgyrch No Mow May Plantlife.

Bydd yr ymgyrch yn annog unigolion, cynghorau a rhanddeiliaid i helpu gwenyn, ieir bach yr haf a bywyd gwyllt arall drwy adael i flodau gwyllt dyfu ar lawntiau a mannau gwyrdd drwy gydol mis Mai yn hytrach na’u torri.

Mae’r cyngor wedi addo ei gefnogaeth i gydnabod ein statws fel Dinas sy’n Caru Gwenyn, a’n dyletswydd i wella natur a chymryd camau gweithredu i helpu i wrthsefyll effaith newid yn yr hinsawdd.

Mae’r penderfyniad i gefnogi’r ymgyrch yn dilyn treialon llwyddiannus o fesurau gwahanol o reoli glaswellt, a chymysgeddau hadau blodau gwyllt gwahanol yn ein safleoedd peilot ‘gadael i dyfu’ dynodedig.

Ac mae’r treialon llwyddiannus wedi galluogi addasu dulliau a amserlenni rheoli glaswellt, a chynyddu capasiti i roi newidiadau cynaliadwy ar waith, sydd o fudd i natur ac i bobl.

O ganlyniad, bydd amserlenni torri rheolaidd ar draws y ddinas yn dechrau ym mis Mehefin. Bydd torri glaswellt yn digwydd o hyd cyn mis Mehefin mewn nifer o leoedd er mwyn:

Cynnal gwelededd ar gyfer defnyddwyr y ffordd; cadw arwyddion traffig a llinellau golwg yn glir; cynnal ymylon a mynediad ar lwybrau troed a llwybrau beicio; a hefyd cynnal parciau, meysydd chwaraeon, safleoedd mynwentydd a mynediad at fannau gwyrdd chwarae a hamdden

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor:

“Rwyf wrth fy modd i gyhoeddi cefnogaeth Casnewydd ar gyfer ‘No Mow May’.

‘O osod paneli solar ar adeiladau’r cyngor i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya newydd, rydym yn cymryd llawer o gamau rhagweithiol fel awdurdod i sicrhau bod Casnewydd yn lle gwyrddach ac iachach i fyw ynddo, ac mae ein cefnogaeth ar gyfer ‘No Mow May’ yn un arall o’r camau hynny.

“Rydym yn cydnabod bod dyletswydd arnom i helpu i gynyddu bioamrywiaeth, a thrwy gefnogi’r ymgyrch hon rydym yn dangos ein hymrwymiad i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol i bobl a bywyd gwyllt ein dinas.”

 

%d bloggers like this: