04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cau ffordd gyswllt Ynyshir unffordd ar gyfer gwaith i ddwy bont

BYDD Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud atgyweiriadau sgwrio hanfodol i ddwy bont yn Ynys-hir i unioni difrod storm – gan olygu cau’r ffordd gyswllt rhwng yr A4233 a Heol Ynys-hir / Heol Aber-Rhondda o ddydd Mawrth.

Cafodd Pont Droed Afon Llanwonno a Phont Afon Maindy Arch eu difrodi yn Storm Dennis, ac mae atgyweiriadau bellach yn gallu digwydd oherwydd lefelau isel y dŵr yn yr afon yn ddiweddar. Mae’r Cyngor wedi penodi’r contractwr Kaymac, sy’n arbenigo mewn adeiladu mewn dŵr, fel contractwr y cynllun.

Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Mawrth, Mai 4, ac yn para tua saith diwrnod.Mae’r contractwr angen gweithredu camau rheoli’r traffig er mwyn bwrw iddi yn ddiogel, ac felly bydd y ffordd gyswllt ar gau i un cyfeiriad am hyd y cynllun.

Bydd modd i yrwyr deithio i gyfeiriad y gorllewin fel arfer, o Ffordd Lliniaru’r Porth yr A4233 i Heol Ynys-hir / Heol Aber-Rhondda. Fodd bynnag, fydd dim modd teithio i’r cyfeiriad arall i’r A4233.

Bydd mynediad i gerddwyr a’r gwasanaethau brys o hyd.  Ffordd arall i yrwyr, o ochr orllewinol y ffordd sydd i’w chau, yw teithio i’r gogledd ar Heol Ynys-hir ac ail-ymuno â’r A4233 ar Gylchfan Wattstown.

Mae’r Cyngor yn parhau i gynllunio atgyweiriadau seilwaith fel blaenoriaeth yn dilyn y tywydd digynsail a ddaeth yn sgil Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae’n parhau i ymrwymo i sicrhau cyllid a gwneud cynnydd ar gynlluniau, megis rhan olaf atgyweiriadau Wal Afon Blaen-y-Cwm a ddechreuodd ar Ebrill 19.

%d bloggers like this: