03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Casnewydd yn lansio cerbyd casglu gwastraff trydan cyntaf Cymru

MAE Cyngor Dinas Casnewydd wedi lansio y cerbyd casglu gwastraff sydd wedi’i bweru â thrydan cyntaf yng Nghymru yr wythnos hon.

Bydd y cerbyd, a ddechreuodd wasanaethu heddiw, yn cael ei ddefnyddio ar rowndiau casglu ar draws y ddinas, ond yn arbennig bydd yn gwasanaethu ardaloedd fel Caerllion y mae’r cyngor wedi’u dynodi’n flaenoriaethau o ran lleihau allyriadau i helpu i wella lefelau ansawdd aer.

Cyflenwyd y cerbyd gan Dennis Eagle, gwneuthurwr cerbydau casglu gwastraff, ac mae wedi’i brynu gyda chymorth Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu cyllid grant ar gyfer hanner y gost drwy eu Cronfa Economi Gylchol, gyda’r cyngor yn talu’r hanner arall.

Bydd y cerbyd yn lleihau allyriadau carbon tua 25-35 tunnell y flwyddyn o’i gymharu â cherbyd safonol, nad yw’n drydan. Ar hyn o bryd, mae cyngor Casnewydd yn gweithio tuag at yr uchelgais o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030, ac mae’r lansiad yn rhan o brosiect ehangach i ddisodli cerbydau presennol y cyngor â dewisiadau ecogyfeillgar.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor:

“Rwyf wrth fy modd mai Casnewydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i lansio cerbyd casglu gwastraff trydan.

“Mae’r lansiad hwn yn dangos ein hymrwymiad fel cyngor i wella amgylchedd a chymwysterau gwyrdd ein dinas, ac rwy’n edrych ymlaen at ein gweld yn cymryd camau pellach i ddatgarboneiddio ein fflyd a gwneud Casnewydd yn lle gwyrddach i fyw ynddo.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Deb Davies, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy:

“Bydd y cerbyd cynaliadwy hwn nid yn unig yn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn sefydliad carbon niwtral, ond bydd hefyd o fudd i lawer o’n trigolion drwy leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yn eu wardiau.

“Mae camau fel hyn yn sicrhau manteision cynaliadwy ar draws y ddinas, ac yn cael effaith gadarnhaol ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, felly rwy’n falch iawn o weld y cerbyd yn cael ei roi ar waith ac yn dechrau darparu’r manteision hynny i’n trigolion.”

%d bloggers like this: