03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Galwad ar bob dinesydd tramor cymwys i gofrestru ar gyfer etholiadau’r Senedd

NID oes ots ble cawsoch chi eich geni, os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch chi nawr bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Yn 2020, fe basiodd y Senedd ddeddf newydd arwyddocaol, sef Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Un o’r newidiadau pwysicaf yn y ddeddf newydd oedd galluogi dinasyddion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf a chymryd rhan yn etholiadau’r Senedd.

Dyma newid mawr i’n democratiaeth yng Nghymru, ac mae’n gyfle i filoedd o bleidleiswyr newydd ddweud eu dweud yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Am y tro cyntaf, bydd gan wladolion tramor y pŵer i helpu dewis pwy sy’n eu cynrychioli nhw, yn ogystal â chreu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol.

A chithau’n wladolyn tramor, mae eich pleidlais yn cyfri – peidiwch â’i cholli. Os ydych chi’n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae’n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.

Dinesydd tramor cymwys yw rhywun sy’n preswylio yng Nghymru ond heb fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd, neu Weriniaeth Iwerddon, ac sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, neu’r hyn sydd gyfystyr â hynny.

 

%d bloggers like this: