03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE’R Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus.

Daw’r pecyn nesaf hwn o gymorth busnes wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod mewn lleoliadau dan do a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, pan fyddant yn agor o Fai 17 ymlaen.

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £2bn i ddegau ar filoedd o fusnesau ledled Cymru i’w helpu drwy’r pandemig.

Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu’r busnesau hynny sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol.

Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol:

Clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr;

Digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi’u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru;

Busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis; a hefyd

Busnesau’r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Mae’r gefnogaeth yn gam cyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru i helpu busnesau y mae’r pandemig yn effeithio arnynt.

Mae’r Gweinidogion wedi gwneud penderfyniad ar unwaith i ryddhau cyllid i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt ond bydd penderfyniadau pellach i Lywodraeth newydd Cymru eu gwneud ynghylch cefnogaeth bellach, i helpu busnesau i adfer a datblygu pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio ymhellach.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae gennym y cyfraddau coronafeirws isaf a’r cyfraddau brechu gorau yn y DU.

“Rydyn ni’n gwybod bod y cyfyngiadau wedi helpu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel ond maen nhw wedi cael effaith fawr ar fusnesau Cymru, a dyna pam rydyn ni’n sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i gefnogi cwmnïau a diogelu swyddi.

“Bydd busnesau cymwys yn derbyn cymorth o hyd at £25k wrth iddynt baratoi i ailagor a symud tuag at amodau masnachu mwy arferol.

“Bydd fy llywodraeth newydd yn rhoi mwy o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu i fusnesau i’w helpu i ddatblygu a thyfu wrth i Gymru adfer o effaith y pandemig.

“Wrth i ni barhau i lacio’r cyfyngiadau, gallaf gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod dan do mewn lleoliadau a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, o ddydd Llun ymlaen.”

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru am hanner dydd ar 17 Mai fel bod busnesau’n gallu gweld faint o gymorth maent yn debygol o fod â hawl iddo a sut i wneud cais. Bydd busnesau’n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a’r math o gyfyngiadau sydd arno.

Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at ryddhad ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru o £610m a fydd yn golygu na fydd raid i fwy na 70,000 o fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch dalu unrhyw ardrethi yn 2021-22.

%d bloggers like this: