04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Consortiwm o Gaerffili i ddatblygu modur cerbydau trydan gwyrddach newydd

MAE Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd consortiwm o’r byd diwydiant ac academaidd, dan arweiniad y cwmni ymchwil a datblygu uwch o Gaerffili, Deregallera, yn dechrau gweithio ar fodur amgen ar gyfer cerbydau trydan sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd byd-eang, diolch i gymorth gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford, sy’n werth £1.8 miliwn.

Wedi’i weinyddu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o etifeddiaeth Ford yng Nghymru, sefydlwyd y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel i helpu i fynd i’r afael â heriau technegol strategol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel.

Bydd Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford yn agor ar gyfer ail rownd o geisiadau ddydd Llun 1 Awst 2022.

Mae moduron trydan wedi bod yn cael eu defnyddio ers degawdau. O’r nifer o wahanol fathau o foduron, mae moduron magnet parhaol yn cynnig y perfformiad gorau. Fodd bynnag, mae bron i 85% o gronfeydd wrth gefn y byd o ran y deunyddiau arbennig sydd eu hangen ar gyfer magnetau parhaol yn dod o Tsieina.

Yn ogystal â’r materion geo-wleidyddol sy’n deillio o ddibynnu ar un wlad ar gyfer adnoddau naturiol, mae arferion presennol yn golygu bod yr adnodd cyfyngedig hwn yn cael ei ddisbyddu. Mae hynny’n arwain at faterion amgylcheddol sy’n peri pryder, gan gynnwys pryderon am gynaliadwyedd hirdymor dosbarthu deunydd “prinfwyn” ledled y byd.

Diolch i gyllid gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford, bydd un o’r prosiectau cyntaf i’w cefnogi yn gweld Deregallera o Gaerffili yn arwain prosiect a fydd yn golygu eu bod yn gweithio gyda chwmni Meritor o Gwmbrân, ac academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, i ddylunio, datblygu a phrofi modur ar gyfer cerbydau trydan carbon isel newydd sy’n defnyddio llai o ddeunyddiau “prinfwyn”. Bydd hynny’n eu gwneud yn rhatach ac yn lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd a’r hinsawdd.

Bydd y prosiect, a allai gael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr amgylchedd, yn helpu i gyflawni ymrwymiadau sero net uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu diwydiannau newydd y dyfodol yma yng Nghymru. Dyma’r busnesau a fydd yn creu’r swyddi gwyrdd newydd sydd eu hangen arnom i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.

Mae’r tymheredd uchaf erioed a gawsom yn gynharach yr wythnos hon yn arwydd clir bod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i gymdeithas. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Fel rhan o’r camau rydym yn eu cymryd, rydym wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ein cymdeithas, gan gynnwys datblygu systemau trafnidiaeth nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd. Mae angen mwy o geir trydan, bysiau a thryciau glanach ar ein ffyrdd. Fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, rydym hefyd am ofalu am natur a sicrhau nad ydym yn gwastraffu adnoddau byd-eang cyfyngedig fel deunyddiau “prinfwyn”.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arloesedd, rydym am weld cwmnïau ac academyddion o Gymru yn dod at ei gilydd i ddod o hyd i atebion arloesol a wnaed yng Nghymru i broblemau byd-eang. Felly, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu ariannu’r prosiect newydd cyffrous hwn, sy’n cyflawni’r uchelgais hwnnw.

Rwy’n gyffrous ynglŷn â photensial y prosiect hwn i ddarparu modur cerbyd amgen sy’n gynaliadwy. Gallai hyn ddod â manteision sylweddol i’n heconomi a’n cymdeithas. Rwy’n hyderus y bydd hyn yn arwain at greu cadwyni cyflenwi Cymreig newydd ac arloesol a fydd yn helpu i bweru ein heconomi ymhell i’r dyfodol.”

Meddai Martin Boughtwood, Rheolwr Gyfarwyddwr Deregallera:

“Bydd cymorth gan Gronfa Ford yn ein galluogi i barhau i weithio gydag arbenigwyr trenau pŵer trydan yng nghwmni Meritor, sydd wedi’i leoli yng Nghwmbrân, a Phrifysgol Caerdydd i ddylunio a phrofi modur newydd sy’n defnyddio llai o ddeunydd “prinfwyn” na moduron confensiynol, gan eu gwneud yn rhatach a lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd a’r hinsawdd.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran cwmni moduron Ford:

“Dyma’r union fath o gydweithrediad technegol arloesol yr oeddem yn dymuno i’n cronfa etifeddiaeth ei gefnogi. Bydd y Gronfa’n sbarduno dau brosiect cerbydau carbon isel arall yng Nghymru, ac ni allwn aros i weld yr hyn y bydd y cylch ariannu nesaf yn ei gynnig.”

%d bloggers like this: