04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Creu Caerdydd newydd, werddach gryfach a thecach wrth adfer o COVID

MAE Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o gynigion a gynlluniwyd i hybu economi Caerdydd a gwella bywydau trigolion wrth i Gymru ddod allan o’r cyfnod cloi.

Mae’r strategaeth ar gyfer adfer ac adfywio’r ddinas ar ôl COVID-19 yn defnyddio adroddiad a luniwyd ar gyfer y Cyngor gan arbenigwr blaenllaw ar ddinasoedd a pholisïau rheoli trefol.

Mae awdur yr adroddiad, Dr Tim Williams, wedi gweithio ledled y byd ers 20 mlynedd gan helpu dinasoedd fel Llundain a Sydney i ddatblygu strategaethau trefol. Comisiynwyd ei adroddiad – Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19 – gan y Cyngor i herio ei feddylfryd ei hun, ac i weithredu fel cyfaill beirniadol annibynnol.

Ar ôl derbyn adroddiad Dr Williams, mae’r Cyngor wedi llunio pedwar adroddiad ei hun, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw ac sy’n amlinellu sut y bydd Cyngor Caerdydd yn gweithio tuag at gyflawni strategaeth adfer ac adfywio ar gyfer y ddinas a fydd yn:

Ail-lunio canol y ddinas, gan greu lle bywiog a chroesawgar i bawb sy’n ymweld ac yn gweithio yno;

Helpu i greu swyddi a phrentisiaethau newydd, gan roi hwb i gyfleoedd cyflogaeth;

Cyflawni adferiad ‘Cenedl Un Blaned’ sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd; a bydd yn

Gweithio tuag at sicrhau gwell canlyniadau i blant – yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig – fel rhan o adferiad ‘sy’n dda i blant’.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiadau yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mai. Os cytunir ar yr adroddiadau hyn, bydd y Cyngor yn dechrau trafod â thrigolion a rhanddeiliaid y ddinas dros yr haf i geisio eu barn ar y cynigion.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Mae pandemig Covid-19 wedi cyflwyno’r her fwyaf i wasanaethau cyhoeddus ac i fywyd y ddinas mewn cenhedlaeth.  Yn ystod yr argyfwng mae’r Cyngor hwn wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i drigolion mwyaf agored i niwed y ddinas.

“Ar ddechrau’r argyfwng daethom â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ynghyd i arwain ymateb dinas-gyfan llwyddiannus i’r pandemig. Nawr mae’n bwysig ein bod yn parhau â’r gwaith da, gan lunio dyfodol Caerdydd ochr yn ochr â’r partneriaid hynny a thrigolion y ddinas wrth i ni geisio ailagor yn ddiogel. Rydym i gyd yn gobeithio mai’r cyfnod cloi hwn fydd yr olaf, ond wrth i’r ddinas ddod allan o’r pandemig mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau adferiad buan sy’n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl.

“Mae Covid wedi cyflwyno heriau, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae’n debygol y bydd yna effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor, ond bydd cyfleoedd hefyd i ailystyried y ffordd rydym am i’n dinas dyfu ac am y ffordd rydym am fyw ein bywydau mewn byd ar ôl Covid.

“Rydym eisoes wedi gweld tueddiadau, a oedd yn dod i’r amlwg cyn Covid, yn cyflymu – newidiadau i’r ffordd rydym am fyw, gweithio, siopa a threulio ein hamser hamdden. Wrth symud ymlaen bydd cyfleoedd i newid y ffordd rydym yn gweithio, i wneud bywyd yn fwy lleol, i leihau tagfeydd, i gymryd camau i lanhau’r aer a anadlwn ac i wella’r amgylchedd.

“Mae’r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’w holl drigolion. Rydyn ni wedi llunio cynlluniau a fydd, yn ein barn ni, yn helpu Caerdydd i adfer o’r pandemig, cynlluniau a all fod o fudd i bawb sy’n byw ac yn gweithio yma. Hoffwn ddechrau sgwrs Uchelgais Prifddinas newydd gyda dinasyddion a rhanddeiliaid y ddinas ar sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adfywio prifddinas Cymru.

Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy’n gweithio i bawb sy’n byw ynddi, ac sy’n gweithio i Gymru. Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu yn yr un modd â thros yr 20 mlynedd diwethaf. Dinas wych i fyw ynddi ac un sy’n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru.”

Meddai Dr Williams:

“Ymunodd Caerdydd â’r argyfwng byd-eang hwn mewn cyflwr da a gall ddod allan ohono hyd yn oed yn gryfach gyda’r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a’r arloesedd cywir. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i’w cymuned ei hun a chymuned y Ddinas-ranbarth.

“Mae cyfle i Gaerdydd, wedi’i symbylu gan Covid-19, ddod yn batrwm ar gyfer dinasoedd eraill o’i maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a’r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi’i dangos, nid yn unig y bydd Caerdydd yn adfer i’w sefyllfa cyn y pandemig, does dim amheuaeth am hynny, ond bydd yn hi’n dod yn ôl yn gryfach wrth i’r Cyngor ailgychwyn yr hyn y gall ei wneud ond hefyd yn ailfeddwl beth sydd angen iddo ei wneud.”

%d bloggers like this: