BYDD plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn rhan annatod o ymagwedd y ddinas at adfer ac adnewyddu yn sgil effaith y pandemig.
Mae cyfres o gynlluniau tymor byr a thymor hwy wedi’u nodi mewn adroddiad i’w ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mai sy’n canolbwyntio ar ddarparu Adferiad sy’n Dda i Blant.
Mae’r adroddiad yn cydnabod effaith y pandemig ar addysg, hawliau, lles a llwybrau plant a phobl ifanc i gyflogaeth yn y dyfodol ac mae’n cynrychioli elfen Adfer sy’n Dda i Blant yn Uchelgais Prifddinas y Cyngor: Rhaglen Adfer ac Adnewyddu sy’n cwmpasu pedwar maes adfer allweddol gan gynnwys gwyrdd, economaidd, da i blant a threfniadaethol.
Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau’r Cyngor a’r ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi a’u meithrin ers lansio Strategaeth Caerdydd sy’n Dda i Blant yn 2018, a oedd yn nodi uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod fel Dinas sy’n Dda i Blant.
Gan gydnabod y rôl arloesol y mae’r Cyngor wedi’i chwarae fel un o’r rhai cyntaf i ymuno â’i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant, mae Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF wedi awgrymu bod Caerdydd yn cyflwyno ar gyfer cydnabyddiaeth fel Dinas sy’n Dda i Blant yn ddiweddarach eleni.
Datblygwyd y cynllun adfer gyda phlant a phobl ifanc yn ganolog iddo ac mae’n cynnwys cynlluniau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol wasanaethau’r cyngor a chyda phartneriaid, i sicrhau bod Caerdydd yn ‘Lle Gwych i Dyfu i Fyny’ lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu a lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel iach, hapus ac yn gallu rhannu yn llwyddiant y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:
“Rydym wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF y DU ac felly mae’n hanfodol bod yr uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu wrth ddatblygu a chyflawni ein rhaglen adfer ac adnewyddu.
“Mae plant a phobl ifanc wedi colli cymaint yn ystod y pandemig ac mae’n hanfodol ein bod yn y lle cyntaf yn mynd i’r afael â’r angen iddynt adfer profiadau cymdeithasol, hamdden a chwaraeon y maent wedi’u colli, ac yn syml i gael ‘bod’ gyda’u ffrindiau.
“Drwy ymdrechion ar y cyd ar draws holl adrannau’r Cyngor, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaethau ar draws y ddinas-ranbarth, gallwn helpu i sicrhau nad yw tarfu ac unrhyw brofiadau negyddol yn sgil y pandemig yn cael effaith barhaol a niweidiol ar ein plant a’n pobl ifanc.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi arwain at newid digynsail ac rydym bellach yn cael cyfle i fyfyrio nid yn unig ar brofiadau’r pandemig ond ar ein taith Da i Blant hyd yma ac i atgyfnerthu’r gwersi a ddysgwyd cyn nodi ein cenadaethau yn y dyfodol.”
Er cydnabod bod y tarfu a welwyd yn y flwyddyn ddiwethaf wedi effeithio ar bob plentyn a pherson ifanc, mae’r adroddiad yn cydnabod bod effaith y pandemig wedi bod yn fwy ar y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn y ddinas, gan waethygu anghydraddoldebau presennol yn ein cymunedau.
Felly, mae’r dull adfer o gefnogi plant a phobl ifanc yn cynnwys ymateb cyffredinol i bob plentyn a pherson ifanc ac ymateb wedi’i dargedu ar gyfer grwpiau mwy agored i niwed.
Mae gan yr ymateb cyffredinol bedwar maes ffocws penodol – Iechyd a Diogelwch, Ailymgysylltu a llesiant, Cynnal dysgu a Llwybrau Dilyniant.
Mae’r camau gweithredu yn y rhan hon yn cynnwys cyflwyno Gŵyl Plant a Phobl Ifanc ledled y ddinas – ‘Haf o Wenu, gwell darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid a gweithio’n agos mewn partneriaeth rhwng ysgolion, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaethau i Mewn i Waith a phartneriaid ehangach Addewid Caerdydd i sicrhau bod yr holl bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu drefn addysg heblaw am yr ysgol yn 2021 yn sicrhau cyrchfan gadarnhaol i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Nodir y meysydd ffocws allweddol ar gyfer ymateb tymor byr wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed ac sydd mewn perygl o syrthio ymhellach ar ei hôl hi ac sy’n debygol o fod fwyaf difreintiedig o ran canlyniadau addysgol, iechyd a llesiant a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol yn yr adroddiad fel – Diogelu a Llesiant, Uchelgais, Cyfleoedd a Dilyniant a rhaglenni Datblygiad Personol a Chymdeithasol i Ieuenctid a Llesiant Cymunedol.
Bydd Caerdydd hefyd yn gweithio tuag at gyhoeddi Strategaeth Da i Blant wedi ei hadnewyddu gan adeiladu ar y profiad a’r gwersi a ddysgwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr adnewyddiad hwn yn nodi’r ymrwymiadau a rennir gennym, yn ogystal â chynllun tair blynedd, gydag uchelgais y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle cyfartal i ffynnu a chyrraedd eu potensial.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m