04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris

MYNEGWYD cydymdeimladau dwysaf yn dilyn y newyddion am farwolaeth sydyn y Cynghorydd Hag Harris ddydd Mawrth, 31 Mai 2022.

Darparodd y Cynghorydd Hag Harris wasanaeth hirsefydlog i Geredigion
a’i thrigolion wrth gael ei ethol gyntaf yn 1995, a chyn hynny, roedd
yn Aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981. Roedd yn Aelod Cabinet rhwng 2012 a 2017 ac yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion rhwng 2018 a 2019.

Dywedodd Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae’r newyddion trist hwn am ein cyfaill a’n cyd-weithiwr, y
Cynghorydd Hag Harris, wedi dod yn sioc fawr i ni gyd. Cafodd ei ethol i
Ward Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion yn 1995, a chyn hinny roedd yn Aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981. Roedd yn Gadeirydd Cyngor
Sir Ceredigion yn ystod 2018-2019 ac roedd yn llais clir a chadarn i’w
drigolion ac i’r dref a oedd mor agos at ei galon. Roedd Hag wastad yn
barod ei gymwynas ac i gynnig geiriau o gefnogaeth neu ddoethineb ar
draws llawr y Siambr; mi welwn eisiau ei gymeriad hoffus. Estynnwn ein
cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i gymar yn eu profedigaeth.”

Ychwanegodd Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol:

“Mae’r newyddion yma wedi dod yn sioc enfawr i ni gyd ac mae’n
anodd credu. Mae’r gwaith a wnaed gan Hag a’i ymroddiad i’r sir dros
y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac roeddwn yn edrych ymlaen at
gydweithio ag ef. Estynnwn ein cydymdeimladau i’r teulu ac i’r rhai
agosach ato.”

Mae baneri’r Cyngor yn chwifio ar hanner mast er cof am fab hoffus a
gwas ffyddlon i’r sir hon.

Hoffai’r Cyngor ofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y
cyfnod hwn o alaru.

%d bloggers like this: