04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfarfod Blynyddol C.Ff.I Sir Gâr

CYFARFOD Blynyddol C.Ff.I Sir Gâr Nos Fercher, 7fed Hydref, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn wahanol iawn i’r arfer, a hynny ar Zoom.

Mr Iestyn Owen, C.Ff.I Capel-Arthne cafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd Sir am 2020-2021 gyda Mr Hefin Evans, C.Ff.I Capel Iwan yn cael ei ail-ethol fel Is-gadeirydd am y flwyddyn. Diolchwyd i’r ddau am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddymuno’n dda am y flwyddyn oedd i ddod.

Hefyd yn y cyfarfod, cafodd Aled Thomas, C.Ff.I Dyffryn Cothi ei ail-ethol yn Gadeirydd Gweithgareddau, a Siôn Evans, C.Ff.I Llanllwni yn Is-gadeirydd ar y Pwyllgor. Elin Childs, C.Ff.I Llanfynydd bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am flwyddyn arall gyda Sian Williams, C.Ff.I Llangadog yn Is-gadeirydd ar y Pwyllgor.

Mrs Jean Lewis gafodd ei ail-ethol fel Llywydd y Sir gyda Mr Elfyn Davies yn cael ei ail-ethol fel Is-lywydd. Llongyfarchiadau iddynt hwy ac rwy’n siŵr bydd y ddau yn parhau i gefnogi gweithgareddau’ Mudiad yn y Sir dros y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y cyfarfod blynyddol cyhoeddwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont yn enillwyr o Gwpan John a Hazel James am y clwb gyda’r pwyntiau uchaf yng nghystadlaethau’r Sir am y flwyddyn 2019-20 a hynny am y trydedd flwyddyn o’r bron. Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont oedd yn derbyn Cwpan coffa Elfyn Richards am y clwb gyda’r pwyntiau uchaf yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus Cymraeg a Saesneg am 2019-2020 hefyd.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i bawb, ac yn enwedig i’n haelodau a’n Clybiau yn ogystal â’r Sir gyda gweithgareddau a chystadlaethau wedi eu gohirio.

Er hyn, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod nifer o’n haelodau wedi mynd ati i gefnogi nifer fawr o aelodau yn eu Cymunedau lleol i siopa bwyd a chasglu meddyginiaeth. Symudwn ymlaen i weld sut fydd y misoedd nesaf yn dod i ben, a hyderwn gyda’n gilydd bydd dyfodol llewyrchus i ni gyd yn Fudiad y Ffermwyr Ifanc.

%d bloggers like this: