04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle i ymweld â rhai busnesau gwledig sy’n perfformio orau yn y DU

MAE Cyswllt Ffermio nawr yn chwilio am geisiadau ar gyfer dau o’i brosiectau sydd â galw mawr amdanynt. Mae’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yn cynnig cyllid o hyd at £2,500 i unigolion cofrestredig tra bod y rhaglen Teithiau Astudio yn cynnig talu hyd at 50% o’r gost lawn dros grwpiau o unigolion cofrestredig (hyd at uchafswm o £3,000). Ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig Covid, mae’r teithiau wedi’u cyfyngu i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yr holl drefniadau yn ddibynnol ar y cyfarwyddyd llywodraethol perthnasol ar adeg y teithiau a drefnir.

Bydd y ddau brosiect yn rhoi’r cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus ymweld â busnesau ‘enghreifftiol’ yn ymwneud â’r tir, sydd wedi rhoi dulliau arloesol neu fwy effeithlon o weithio mewn grym, a bydd y cyfranogwyr yn gallu gweld neu brofi’n uniongyrchol yn union beth y mae’n ei gymryd i weithredu mentrau arloesol, gwydn a phroffidiol.

Mae ffenestr ymgeisio’r rhaglen teithiau astudio ar gyfer eleni yn cau ar 31 Mai 2022 a bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth 2022 ar agor hyd ddydd Llun 28 Chwefror 2022.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn ôl Will Sawday, ffermwr ifanc a raddiodd gyda gradd mewn amaeth o SRUC (Scotland’s Rural College, Edinburgh), ac sy’n cadw 1,400 o famogiaid Romney ar fferm fynydd ei deulu ger y Gelli Gandryll, roedd y cyfle i ymweld â thair system ffermio da byw ‘atgynhyrchiol’ yn 2020/21 yn ‘drawsffurfiol’.

“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth wedi fy ngalluogi i ddysgu o fusnesau fferm llwyddiannus eraill, gan roi’r hyder i mi roi’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu ar waith.

“Roedd gweld sut roedd ffermwyr eraill yn defnyddio’r byd natur ar gyfer gwell canlyniadau ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol wedi fy ysbrydoli i newid nifer o’r systemau sydd gen i gartref.”

Bu Will yn ymweld â mentrau fferm yn yr Alban, Cymbria ac un yn Rhosan ar Wy. Cafodd Will ei gymell fwyaf gan y nifer o brosiectau ‘atgynhyrchiol’ risg-isel, a oedd ar raddfa gymharol fechan, nad oedd yn ymwneud â chymryd risgiau ariannol mawr, ond a oedd yn fuddiol tu hwnt.

Ymunodd Neil Davies, ffermwr bîff a defaid o Langamarch, sydd hefyd yn un o ffermwyr safle arddangos Cyswllt Ffermio, ag wyth ffermwr ifanc arall i ymweld ag ystod eang o fusnesau yn 2021 fel rhan o Daith Astudio 4 diwrnod i’r Alban.

Dywedodd Neil ei fod wedi dechrau cynllunio strategaeth pori cylchdro newydd cyn gynted ag y cyrhaeddodd adref! Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd wedi bod yn ymgeisydd Cyfnewidfa Rheolaeth, ac o ganlyniad, newidiodd ef y lloriau yn ei siediau da byw o rai gwellt i rai slatiau.

“Mae’r ddau gyfle wedi newid ein busnes yn llwyr, felly dyma’r lle gorau i ddechrau ar gyfer unrhyw un sydd eisiau arallgyfeirio neu wella eu system gyfredol – mae llawer yn rhatach i ddysgu gan eraill na thalu am eich camgymeriadau eich hun!

“Roedd sawl aelod o’n grŵp teithiau astudio yn cynllunio neu’n dechrau mentrau arallgyfeirio newydd yn barod, ond roedd y daith hon wedi rhoi cyfle unigryw i arsylwi, gan roi mewnwelediad i ni i’r manteision a’r risgiau o drio ffyrdd newydd neu wahanol o weithio, gan achosi rhai ohonom ni i ailasesu ein strategaeth.”

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, yn pwysleisio gwerth ymweld â busnesau eraill a dysgu ganddynt.

Dywedodd Mrs Williams:

“P’un a ydych fel Will, yn ymgeisio ar gyfer y rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth fel unigolyn, neu’n cydweithio â ffrindiau neu gymdogion o’r un meddylfryd a allai gyflwyno cais grŵp ar gyfer taith astudio, bydd Cyswllt Ffermio yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu chi i drefnu amserlen teithio a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau i gyd.

“Mae teithiau astudio a Chyfnewidfa Rheolaeth blaenorol wedi bod yn hynod o fuddiol i gynifer o unigolion, gan gefnogi teithiau i fusnesau da byw, garddwriaeth a choetir, yn ogystal â mentrau arallgyfeirio fel distyllfeydd, siopau fferm, mentrau prosesu bwyd a thwristiaeth.

“Y cwbl rydyn ni’n ei ofyn ohonoch chi yw i chi gytuno i gadw cofnod o’ch canfyddiadau, a bydd Cyswllt Ffermio yn eu rhannu gyda’r diwydiant ehangach pan fyddwch chi’n dychwelyd,” meddai Mrs Williams.

 

%d bloggers like this: