04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi copi Drafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32

MAE dogfen ddrafft ‘Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32’ Ceredigion yn cynllunio ar gyfer y Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

Nod tymor hir Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yna filiwn o siaradwyr ar draws Cymru, erbyn y flwyddyn 2050. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2022-32 pob Awdurdod Addysg yn cyfrannu at y weledigaeth hon.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Ym mis Medi 2022, bydd Cwricwlwm i Gymru yn statudol yn ysgolion Cymru ac un nod, yn unol â’r Pedwar Diben, yw sicrhau y bydd “ein holl blant a phobl ifanc yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.”

Mae’n ofyniad ar awdurdod lleol fel Ceredigion i gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyfrannu at gyflawni’r disgwyliad o ran twf addysg cyfrwng Cymraeg, nawr ac yn y dyfodol.

Mae targedau penodol yng  nghynllun drafft Ceredigion ar gyfer cynyddu’r ganran o ddisgyblion 5 oed sydd mewn addysg Gymraeg. Un o’r prif nodau yw i sicrhau fod disgyblion yn derbyn sylfaen ragorol wrth siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg gan gynyddu ar eu dewis a’u hyder i’r dyfodol. Pwysleisir na fydd unrhyw ddatblygiadau a nodir yn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg ddrafft ar gyfer Ceredigion yn berthnasol i blant oed cynradd sy’n mynychu unrhyw ysgol ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau fod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg, bydd Cyngor Ceredigion yn ymgynghori’n llawn ar hyd y daith gyda’r holl ran-ddeiliaid a phartneriaid perthnasol.

Bydd y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg ddrafft yn cael ei thrafod yn y lle cyntaf ym Mhwyllgor Iaith Cyngor Ceredigion ar ddydd Llun 17eg Mai. Y Cabinet fydd yn penderfynu maes o law a fydd y drafft terfynol yn medru ei ymgynghori gyda’r cyhoedd yn ei chylch, a byddai hynny’n cychwyn ym mis Hydref 2021 am 8 wythnos. Y Cyngor llawn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn p’un ai i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 2022-2032.

%d bloggers like this: