03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Estyniad i’r ymgynghoriad cynnig cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr

MAE Cyngor Powys  wedi dweud bod ymgynghoriad ar gynnig i gau ysgol gynradd yn ne Powys yn cael ei gynnal am gyfnod estynedig.

Ma’r Cyngor yn bwriadu ad-drefnu a rhesymoli darpariaeth ysgolion cynradd yn y sir fel rhan o’i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030 ac mae’n cynnig cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr.

Mae’r cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig. Gellir ei gyflwyno bellach tan ddydd Mercher, 23 Mehefin.

Fedr pobl ymateb i’r ymgynghoriad, ar Trawsnewid Addysg a dilyn y dolenni i roi barn ar-lein.

Gall person gael copi papur o’r ddogfen ymgynghori drwy gysylltu â’r Tîm Trawsnewid Addysg drwy ffonio 01597 826618 neu anfon e-bost i school.organisation@powys.gov.uk

Mae yn bosib ymateb yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost i school.consultation@powys.gov.uk neu drwy’r post at y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, gallai’r ysgol gau ddiwedd mis Awst 2022 gyda disgyblion yn trosglwyddo i’w hysgol arall agosaf.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar Addysg ac Eiddo:

“Rydym yn ymroddedig i drawsnewid profiad y dysgwr a hawliau ein dysgwyr a byddwn yn cyflawni hyn drwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

“Mae ein strategaeth yn uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl y mae ein dysgwyr yn ei haeddu. Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau ei weithredu, byddwn yn wynebu penderfyniadau mawr wrth i ni geisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys sy’n cynnwys y gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion sy’n gostwng a’r nifer uchel o leoedd gwag.

“Nid ar chwarae bach y gwnaed y cynnig hwn ond rydym wedi sicrhau bod budd gorau’r dysgwyr yn yr ysgol hon yn flaenllaw yn ein trafodaethau a’n penderfyniadau.

“Pe bai’r ysgol hon yn cau, byddai’r dysgwyr yn mynychu ysgolion a fyddai mewn sefyllfa well i fodloni gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a gallai hynny ddarparu ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y bobl yng nghymuned yr ysgol hon yn ogystal â’r ardal ehangach yn cael dweud eu dweud ar y cynnig hwn.  Hoffwn eu hannog i roi eu barn er mwyn i ni ei ystyried.”

%d bloggers like this: