04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymeradwyo partneriaeth â chwmni ynni i archwilio datblygiad fferm wynt

MAE aelodau Cabinet Cyngor Caerffili wedi ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r cwmni ynni gwyrdd preifat, RWE, i archwilio opsiynau i’r Cyngor fuddsoddi mewn datblygiad fferm wynt arfaethedig trwy fodel rhanberchenogaeth.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng y Cyngor ac RWE yn gytundeb nad yw’n gyfreithiol rwymol a fydd yn galluogi’r ddau barti i weithio mewn partneriaeth i archwilio’r posibiliadau o ddatblygu model rhanberchenogaeth ar gyfer y datblygiad fferm wynt arfaethedig ar dir preifat yn Fferm Pen March, i’r gogledd o Rymni.

Os yw’r fenter yn cael ei datblygu, byddai’r Cyngor yn cyfrannu at y gost adeiladu a chael elw o’r refeniw a gynhyrchir gan y prosiect. Byddai’r Cyngor, trwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, yn ceisio gwneud y mwyaf o’r buddion cymunedol lleol a briodolir i’r cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd John Ridgewell, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous sydd nid yn unig yn bodloni blaenoriaethau’r Cyngor i leihau allyriadau carbon, gan sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn lle gwyrddach, ond sydd hefyd yn cysylltu â’n hymrwymiadau i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer buddsoddi masnachol a darparu buddion cymunedol ehangach. Mae’r prosiect hwn wir yn dangos ein hethos fel sefydliad gyda meddwl masnachol a chalon gymdeithasol.”

%d bloggers like this: