03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Y Fro yn lansio cynllun drafft Her Newid Hinsawdd

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio cynllun drafft Her Newid Hinsawdd sy’n manylu ar gynigion i fynd a’r afael a’r argyfwng hinsawdd,

Yn 2019, ymunodd y Cyngor â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau lleol eraill ledled y DU i ddatgan Argyfwng Hinsawdd byd-eang. Ers hynny mae’r Cyngor wedi lansio Prosiect Sero, sef ei ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, yn ogystal â’i ymrwymiad i gyflawni carbon sero-net erbyn 2030.

Mae’r Cynllun Her Newid Hinsawdd yn rhan o’r Prosiect Sero ehangach, ac mae’n nodi 18 o heriau sy’n cwmpasu ymrwymiad y Cyngor i ddangos arweinyddiaeth gref ac i wneud gwahaniaeth.

Mae’r cynllun drafft yn nodi sawl maes y gellir gwneud newidiadau ynddynt, gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd, gwastraff, adeiladau, tir ac ynni. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill.

Gwahoddir partneriaid ac aelodau o’r gymuned i rannu eu barn ar y cynllun drafft, a hefyd ar sut y gall y Cyngor gefnogi ac annog eraill i wneud newidiadau.

Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cynllun drafft hyd at 12 Mai 2021. Gall trigolion a phartneriaid ddod o hyd i fwy o fanylion am Brosiect Sero a’r cynllun drafft ar-lein. Gellir rhoi adborth drwy’r arolwg ar-lein neu drwy e-bostio projectzero@valeofglamorgan.gov.uk

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg:

“Ers datgan yr argyfwng hinsawdd yn 2019, mae’r Cyngor wedi parhau i wneud newidiadau sylweddol o fewn y sefydliad. Fodd bynnag, er mwyn bwrw ein targed uchelgeisiol o allyriadau sero-net erbyn 2030, mae’n amlwg bod angen i’r newidiadau hyn fynd ymhellach fyth. 

“Mae’r Cynllun Her Newid Hinsawdd drafft nid yn unig yn cydnabod y camau hynny y mae angen i’r Cyngor eu cymryd, ond hefyd ein cyfrifoldeb i’r gymuned ehangach. Fel sefydliad, mae’n rhaid i ni arwain drwy esiampl, tra hefyd yn cefnogi ein partneriaid a’n trigolion i wneud newidiadau effeithiol.

“Am y rheswm hwn, rydym yn gofyn i’r cyhoedd rannu eu barn ar ein Cynllun Her drafft, yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd orau i’r Cyngor gefnogi newidiadau ehangach i’n heffaith gyfunol ar yr amgylchedd.”

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal sawl grŵp ffocws ar-lein i alluogi trigolion i rannu eu syniadau. Caiff mwy o wybodaeth am y sesiynau ei rhyddhau yn y dyfodol.

%d bloggers like this: