04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth i fusnesau Abertawe effeithiwyd arnynt gan Covid cynyddu i £155m

MAE Cyngor Abertawe’n rhoi miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol i helpu busnesau lleol i ddiogelu swyddi ac i oroesi pandemig COVID-19.

Yr wythnos hon mae bron 2,400 o fusnesau sy’n atebol i dalu ardrethi busnes ar draws y ddinas wedi derbyn dros £10m. Bydd y grantiau’n cyrraedd cyfrifon banc erbyn diwedd yr wythnos hon ac maent yn dilyn cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener diwethaf am gyfyngiadau sy’n parhau ar fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lletygarwch a hamdden.

Gwnaed cynifer o daliadau â phosib yn awtomatig i gyfrifon y busnesau a gafodd eu cefnogi cyn y cyfnod atal byr a’r cyfnod cyfyngiadau mwy diweddar ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, yn ogystal â’r rownd ddiweddaraf o gymorth, mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno ar gynlluniau i roi rhyddhad ardrethi busnes llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod i filoedd o fusnesau a threthdalwyr eraill ledled y ddinas yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Bydd y rhyddhad ardrethi busnes gwerth £35m hefyd o fudd i oddeutu 2,400 o fusnesau bach sy’n gymwys. Ariennir y cynllun rhyddhad ardrethi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n golygu, ers dechrau’r pandemig, fod y cyngor wedi dosbarthu dros £155m mewn grantiau busnes a rhyddhad ardrethi a ariennir gan Lywodraeth Cymru i filoedd o fusnesau lleol, gan helpu i ddiogelu swyddi a draws y ddinas.

Er bod miloedd o fusnesau wedi derbyn arian yn ystod rownd ddiweddaraf y grantiau ardrethi busnes yn awtomatig, bydd angen i rai busnesau cymwys nad ydynt wedi gwneud cais am grant o’r blaen wneud cais am y cymorth diweddaraf, fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae ffurflen ar-lein ar gael i wneud hynny ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/ArdrethiAnnomestigyGronfaiFusnesaudanGyfyngiadauSymud.

Bydd y ffurflen ar gael tan 5pm ddydd Mercher 31 Mawrth 2021. Wedi hynny, bydd cronfa’r grantiau’n cau i geisiadau pellach felly bydd angen i fusnesau weithredu’n gyflym os ydynt am wneud cais.

Efallai bydd busnesau nad ydynt yn atebol i dalu Ardrethi Busnes yn gallu gwneud cais am grant dewisol os nad ydynt wedi gwneud cais hyd yn hyn i’r cynllun grantiau dewisol dan gyfyngiadau symud estynedig a bydd hefyd angen iddynt wneud cais am y grantiau hynny trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar we-dudalen y cyngor www.abertawe.gov.uk/GrantDewisolyGronfaiFusnesaudanGyfyngiadauSymud

Mae gwybodaeth fwy cyffredinol i fusnesau ynghylch sut i ymdopi yn ystod pandemig COVID-19 ar gael yma: www.abertawe.gov.uk/cyngorcovid19argyferbusnesau ac ar wefan Busnes Cymru – www.businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy

%d bloggers like this: