WRTH sôn am Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Er ei bod yn galonogol gweld y gyfradd ddiweithdra’n gwella ychydig yng Nghymru, rydym yn cydnabod yr effaith wirioneddol y mae coronafeirws yn parhau i’w chael ar bobl a busnesau.
“Fel llywodraeth, rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau. Mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £2bn a mwy yn parhau i fod yn hanfodol i helpu cwmnïau drwy’r cyfnod anodd hwn ac mae eisoes wedi diogelu mwy na 160,000 o swyddi. Dim ond y mis hwn cyhoeddwyd £150m yn ychwanegol gennym i helpu busnesau a diogelu cyflogaeth yn y sectorau yr effeithiwyd arnynt waethaf, ac rydym wedi ymestyn cymhellion prentisiaethau i sicrhau bod y llwybr gyrfa pwysig hwn yn parhau i fod ar agor i bobl ledled Cymru.
“Rydym yn gwybod y bydd y misoedd i ddod yn parhau i fod yn heriol i’n cymunedau a’n busnesau a bydd ein Cenhadaeth Cadernid ac Ad-drefnu Economaidd yn hanfodol i ailadeiladu ein heconomi, creu cyfleoedd newydd a chynnal swyddi sy’n bodoli eisoes. Er mwyn cefnogi busnesau i’r flwyddyn ariannol nesaf rydym wedi neilltuo £200m yn ychwanegol ar gyfer cymorth busnes ac rydym wedi ymestyn y gwyliau ardrethi i fusnesau cymwys am 12 mis arall a fydd, ar y cyd â’n cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach presennol, yn sicrhau y bydd dros 70,000 o fusnesau yn parhau i beidio talu ardrethi tan fis Ebrill 2022.”
More Stories
Llacio rhagor o’r cyfyngiadau coronafeirws yn gynt
Cynlluniau gwerth £3m ar gyfer gwelliannau rwydwaith teithio llesol a llwybrau diogel
Ymgynghoriad i gynddu nifer disgyblion Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm
Cymeradwyo symud ymlaen gydag Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar
Canmoliaeth i Zach am feddwl yn gyflym
Goleuadau dros dro yn cynnig golwg o ddyfodol Mae Copr