03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymru sydd â’r gyfran isaf o swyddi yn y DG gellid eu gwneud gartref

MAE dadansoddiadau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod gweithwyr o Gymru yn cael llai o gyfleoedd i weithio gartref o gymharu â’r rhai yng ngweddill y DG.
Mae’r papur https://cardiff.us3.list-manage.com/track/click?u=0d4d960f143e97b34536912ce&id=9154558a8b&e=ec27c8d0d2) yn amcangyfrif bod ychydig llai na dwy ran o bump (39.9%) o weithlu Cymru yn gallu gweithio gartref, ffigur sy’n is na chyfartaledd y DG o 45.2% ac yn sylweddol is na Llundain lle mae 58.7% yn gallu gweithio gartref.
Fodd bynnag, mae Cymru’n cymharu’n ffafriol â rhai o brif economïau Ewrop, gan gynnwys yr Almaen, Iwerddon a’r Ffindir.
Mae’r ymchwil yn canfod bod y potensial i weithio gartref yn amrywio yn ôl sector a galwedigaeth a’i fod yn gysylltiedig â lefelau incwm uwch.
Mae staff uwch, rheoli a phroffesiynol yn fwy tebygol o allu gweithio gartref, gan awgrymu y bydd gweithwyr ar incwm uwch wedi gallu rheoli cadw pellter cymdeithasol yn well trwy weithio gartref.
Yn y cyfamser, ychydig iawn o gyfle sydd gan rai sectorau a galwedigaethau, ar gyflog is yn gyffredinol, i gynyddu eu hamser yn gweithio o gartref, gan gynyddu peryglon iechyd posibl yn ogystal â’r risg o golli cyflogaeth, oriau ac incwm yn ystod yr argyfwng. Mae’r rhain yn cynnwys y sectorau adeiladu, manwerthu a lletygarwch.
Dywedodd awdur yr adroddiad, Jesús Rodríguez:
“Mae cyfran y swyddi y gellir eu cyflawni i ffwrdd o weithleoedd wedi bod yn ffactor pwysig ym mherfformiad yr economi yn ystod yr argyfwng hwn. Gyda bron i ddwy ran o bump o weithwyr Cymru yn gallu gweithio gartref, mae economi Cymru wedi cael cyfle i barhau i weithredu o dan fesurau cadw pellter cymdeithasol.
“Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n gweithio gartref yn ystod ac ar ôl yr argyfwng yn tueddu i ennill cyflog uwch. Mae gweithwyr iau a llai addysgedig yn tueddu i fod mewn galwedigaethau a diwydiannau heb fawr o botensial i weithio gartref.
“Dyma ffordd arall y bydd y pandemig yn gwaethygu’r anghydraddoldebau economaidd presennol yn economi Cymru. Dylai llywodraethau ganolbwyntio ar gefnogi’r rheiny sy’n ysgwyddo’r baich economaidd mewn sectorau agored i niwed ac ansefydlog.”
Mae’r ymchwil yn dangos y bydd gan newid parhaol i lefelau uwch o weithio gartref oblygiadau economaidd sylweddol, o ddylanwadu ar lefelau cynhyrchiant rhanbarthol ledled y DG, i leihau’r galw am rai swyddi.
Dywedodd Jesús Rodríguez yn ymhellach:
“Nid yw’n hysbys pa mor hir bydd y cyfyngiadau symud yn parhau a sut bydd patrymau gweithio yn newid dros y tymor hwy.
“Bydd y newid i weithio gartref yn effeithio ar rannau o Gymru yn wahanol. Er enghraifft, nid oes band eang ar gael ar gyflymder derbyniol mewn rhannau helaeth o rai ardaloedd yn y DG, gan olygu bod gweithio gartref yn anoddach yn yr ardaloedd hynny. Bydd gweithio gartref hefyd yn cael effaith sylweddol ar y galw am swyddi, megis gwasanaethau glanhau neu arlwyo sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu gweithwyr swyddfa mewn trefi a dinasoedd.
“Er y bydd swyddi newydd yn dod i’r amlwg hefyd, rôl y llywodraeth fydd rheoli pontio o’r fath, yn bennaf trwy gynnig rhwyd ​​ddiogelwch a chefnogaeth fwy cynhwysfawr i’r rhai yr effeithir arnynt.”

%d bloggers like this: