04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

Llywodraeth Cymru rhoi £2.3m ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu

MAE’R ffigurau cychwynnol gan y gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dangos bod cynnydd o 36% mewn ymholiadau mabwysiadu yn ystod mis Ebrill – Mehefin 2020, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Daw’r newyddion ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn cyhoeddi rhoi £2.3 miliwn o gyllid cymorth.

Mae’r cyllid hwn yn parhau â’r pecyn buddsoddi a roddwyd i’r gwasanaeth mabwysiadu yn 2019, a bydd yn helpu i ddatblygu gwasanaethau cymorth, a helpu awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i gryfhau ac i wella eu gwasanaethau presennol.

Bydd y £2.3m yn mynd tuag at y rhaglen Mabwysiadu gyda’n Gilydd, sy’n rhoi cefnogaeth i blant sy’n aros 12 mis neu fwy i ddod o hyd i deulu i’w mabwysiadu

Y gwaith o gyflwyno’r cynllun TESSA yng Nghymru, gan gynnwys asesiadau o deuluoedd yn seiliedig ar seicoleg glinigol, cyrsiau cymorth seicoleg / addysg

Hefyd rhwydwaith cymorth cynghreiriaid cenedlaethol fydd yn cynnwys gwasanaeth cymorth a gwybodaeth newydd i blant a phobl ifanc, hyrwyddo gwaith taith bywyd i helpu plant i wneud synnwyr o’u gorffennol a deall eu dyfodol a datblygu fframweithiau arferion gorau ar gyfer darparu cymorth mabwysiadu a gwerthuso rhaglen wella’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r fframwaith.

Ym mis Mawrth, cymerodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol camau brys i addasu i’r heriau, a gododd yn sgil y pandemig a’r cyfyngiadau, o ran ei allu i gyfarfod â phobl wyneb yn wyneb a theithio. Aeth ati i gynnal ymweliadau â mabwysiadwyr posibl a phaneli mabwysiadu ar-lein, er mwyn i’r gwasanaeth barhau â’i waith o ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sydd â chynllun mabwysiadu.

O ganlyniad, gwelwyd cynnydd yn y diddordeb mewn mabwysiadu, yn ogystal â chynnydd o 18% yn yr asesiadau o fabwysiadwyr a gychwynnwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

“Er y bu’r misoedd diwethaf yn amser heriol i bawb, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu ein gwasanaethau er mwyn inni allu parhau i baru teuluoedd yng Nghymru yn ddiogel.

“Drwy gynnig ein gwasanaethau o bell, gan ddefnyddio e-bost, galwadau ffôn a chyfleusterau fideo-gynadledda, rydyn ni wedi gallu cefnogi mwy o bobl ar eu taith fabwysiadu. Mae’n galonogol gweld y gwaith caled hwn yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynegi diddordeb.”

Yn ystod y mis hwn, ail-lansiodd y gwasanaeth mabwysiadu ei ymgyrch Darganfydda’r rhiant sydd ynot ti i helpu pobl o bob cefndir i gydnabod eu potensial i fabwysiadu.

Does dim ots am eich oedran, eich cyfeiriadedd rhywiol, a ydych yn berchen ar eich cartref eich hunan ai peidio, neu a ydych yn sengl ai peidio, mae bron pawb â’r potensial i fod yn fabwysiadwr.

Mae’r gwasanaeth yn chwilio am bobl sy’n gallu rhoi i blant y diogelwch a’r cariad y mae eu hangen arnynt, ac mae’n annog unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu i gysylltu â’i asiantaeth fabwysiadu leol i gymryd y cam cyntaf ac i ddysgu mwy.

Wrth i deuluoedd sydd wedi mabwysiadu addasu i’r effeithiau y gallai’r newidiadau sydyn i arferion bob dydd eu cael ar blant a theuluoedd, bydd yr ymgyrch recriwtio’n cael ei gryfhau o ganlyniad £2.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae’n galonogol clywed am y cynnydd yn nifer yr ymholiadau ynglŷn â mabwysiadu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gefnogi teuluoedd sydd ar daith fabwysiadu. Drwy gydweithio gyda sefydliadu allweddol, bydd y cyllid yn cefnogi amryw o raglenni sy’n rhoi cymorth i deuluoedd sy’n mabwysiadu yn ogystal â’r plant a phobl ifanc sy’n cael eu mabwysiadu.”

Dywedodd Suzanne Griffiths:

“Drwy addasu ein gwasanaethau a chanolbwyntio ar y cynnydd mewn ymholiadau, yn ogystal â’r cymorth hael, rydyn ni’n gallu parhau i groesawu mabwysiadwyr newydd a chefnogi’r rheini sydd eisoes yn mynd drwy’r broses, er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant y mae angen cartref cariadus a sefydlog arnyn nhw.”

 

%d bloggers like this: