04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymunedau yn dangos eu cariad mewn ffordd anarferol

TRA bod drysau Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn parhau i fod ar gau, maen nhw wedi ymuno â NONaffArt i lansio’r prosiect ‘Love Locks’, sy’n gwahodd y gymuned i ddefnyddio’i dychymyg i roi bywyd newydd i hen gloeau clap ac, yn y pen draw, arwain at gerflun trawiadol.

Os oes unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ysbrydoliaeth, mae gan NONaffArt adnoddau ar-lein, gan gynnwys sesiynau tiwtorial ar-lein hawdd sy’n arddangos ffyrdd o addurno cloeau clap mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.

Gan weithio gyda phartneriaid fel The Fusion Network, Eglwys Santes Gwladys, Rhwydwaith Rhieni a Risca Volunteers, mae 400 o becynnau wed’u hanfon i grwpiau cymunedol hyd yn hyn, gyda diddordeb yn cynyddu bob dydd. Mae’r prosiect hyd yn oed wedi mynd yn fyd-eang, gydag ymholiad wedi dod o Arizona!

Dywedodd Marina Newth, Rheolwr Gwasanaethau Theatr a’r Celfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili “

ni wedi ein hysbrydoli gymaint gan y ffordd y mae’r gymuned wedi croesawu’r prosiect. Roedden ni am wneud rhywbeth i ddod â’r gymuned ynghyd, ac mae’r cloeau clap rydyn ni wedi eu gweld hyd yn hyn yn wych. Bydd yn hyfryd eu gweld nhw’n dod at ei gilydd mewn darn o waith celf sydd ar gyfer y gymuned ac wedi’i wneud gan y gymuned.”

Dywedodd Tania Bryan, Cyfarwyddwr NONaffArt

“Yn draddodiadol, mae cloeau cariad yn symbol o gariad ac ymrwymiad yn niwylliant hynafol. Roedden ni am ddefnyddio’r thema o gloeau, nid yn unig oherwydd roedd yn chwarae ar y syniad o ‘gyfnod clo’ ond hefyd oherwydd mae’n cynrychioli diogelwch a chariad, sydd hefyd yn bwysig iawn i’n cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae dal amser i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at y prosiect gyda’u cloeau eu hunain. Ymhlith y mannau gollwng mae: Sefydliad y Glowyr, Coed Duon; Canolfan Gristnogol Libanus; Neuadd yr Eglwys, Bargod; a Neuadd Ambiwlans Sant Ioan, Rhisga. Cofiwch adael y cloeau ar agor!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nonaffart@gmail.com neu SefydliadYGlowyrCoedDuon@caerffili.gov.uk
Facebook: www.facebook.com/love-LOCKS

%d bloggers like this: