10/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe yn ymrwymo i bolisi ‘Dim Hiliaeth Cymru’

MAE Cyngor Abertawe wedi ailgadarnhau ei ymagwedd dim goddefgarwch at hiliaeth drwy lofnodi polisi Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru.

Cynhaliwyd seremoni lofnodi ar-lein dan arweiniad Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a Judge Ray Singh CBE a Uzo Iwobi OBE o Gyngor Hil Cymru.

Ymunwyd â nhw gan aelodau’r Cabinet, arweinwyr grwpiau gwleidyddol ac uwch-swyddogion .

Drwy lofnodi’r polisi, mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn trin pob person yn deg ac yn gyfartal ni waeth beth fo’i hil, bod hyn yn ymrwymiad i bolisi cyfle cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaetha ac y bydd y cyngor yn glynu wrth Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn darparu gwasanaethau teg a chyfartal i bawb.

Mae’r cyngor bellach yn ymuno â sefydliadau ac unigolion eraill sydd wedi llofnodi’r polisi, a rhestrir yr enwau’n gyhoeddus ar wefan Dim Hiliaeth Cymru.

Meddai’r Cyng. Stewart:

“Mae gan Abertawe hanes balch o wrthwynebu pob ffurf ar hiliaeth, ond fel y mae digwyddiadau’r byd wedi dangos, yn enwedig y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys o gwmpas y byd, rhaid i ni barhau i  sefyll gyda’n gilydd, dod at ein gilydd a dweud ‘Na’ wrth hiliaeth.

Ni fydd y cyngor yn goddef  rhagfarn gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, cam-drin neu drais hiliol yn erbyn unrhyw unigolyn a byddwn yn parhau i gefnogi  Cyngor Hil Cymru a’i waith i hybu cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb”.

Meddai’r Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru:

“Mae anghydraddoldebau hiliol yn parhau i ddifetha bywydau cymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru – nid yw hyn yn dderbyniol. Rydym yn galw ar yr holl sefydliadau i sefyll yn gadarn i ddileu hiliaeth a gwahaniaethu yn eu sefydliadau; mae cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar yr addewid hwn. Gadewch i ni gymryd camau gyda’n gilydd heddiw i wneud Cymru’n lle tecach a mwy diogel.”

%d bloggers like this: