09/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Sylfaen Brynmawr i gael llain chwaraeon 3G newydd

BYDD Ysgol Sylfaen Brynmawr yn cael llain chwaraeon amlbwrpas 3G fydd yn gwireddu buddsoddiad o dros hanner miliwn o bunnau, diolch i weithio partneriaeth rhwng yr ysgol, Cyngor Blaenau Gwent ac asiantaethau chwaraeon Cymru.

Caiff pob ysgol uwchradd/pob oed ym Mlaenau Gwent fynediad i’r ddarpariaeth ym Mrynmawr. Mae Brynmawr wedi cael problemau llifogydd a draeniad gyda’i chyfleusterau presennol, ac mae’r ysgol wrth ei bodd i gael cyfle i gyflawni gwell cyfleoedd addysg gorfforol a chwaraeon ar gyfer disgyblion ar y safle.

Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan ddisgyblion yr ysgol, bydd y llain hefyd ar gael i glybiau chwaraeon lleol iau a hŷn ar gyfer hyfforddiant a hefyd gemau.
Mae’r prosiect hwn yn bosibl oherwydd partneriaeth rhwng yr ysgol, Cyngor Blaenau Gwent a dyraniad cyllid £200,000 gan Chwaraeon Cymru yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol.

Cymeradwyodd Chwaraeon Cymru y dyraniad yn dilyn trafodeathau gyda’r Rhaglen Cydweithio Wynebau Artiffisial, sy’n cynnwys Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Hoci Cymru. Mae’r rhaglen fel arfer yn cyllido rhwng 10 – 12% o brosiect, ond gan gydnabod yr angen gwirioneddol am yd darpariaeth hon cytunodd i gyllido cyfanswm o £200,000.

Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd y gwanwyn/dechrau haf 2021 a dod i ben yn ystod hanner cyntaf tymor yr hydref 2021.

Dywedodd Gerald McNamara, Pennaeth Ysgol Sylfaen Brynmawr:

“Mae’r ysgol a’i Chorff Llywodraethu wrth eu bodd bod y prosiect cyffrous hwn yn symud ymlaen. Dyma weithio partneriaeth ar ei orau a hoffwn ddiolch i bob partner am ddangos ymrwymiad go iawn i’r prosiect. Bydd y llain newydd yn trawsnewid y ffordd y gallwn gyflwyno addysg gorfforol a chwaraeon yn ein hysgol a bydd hefyd yn ased ar gyfer y gymuned chwaraeon yn ehangach.”

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gydag Ysgol Sylfaen Brynmawr a phartneriaid eraill i ddatblygu’r llain 3G newydd, ac rwy’n sicr y bydd yn ased gwirioneddol i’r ysgol a hefyd y clybiau a’r timau lleol sydd eisoes yn edrych ymlaen at ei ddefnyddio.

“Mae hyn yn bwysig ar gyfer Addysg wrth i ni barhau i weithio i godi safonau a rhoi’r cyfleoedd a’r amgylcheddau dysgu gorau oll a fedrwn. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn annog pawb ym Mlaenau Gwent i fyw bywyd iach ac egnïol, a sicrhau fod cyfleusterau o’r radd flaenaf ar garreg eu drws yn helpu gyda’r amcan llesiant yma.”

Caiff y llain a’r archebion eu trefnu gan Reolwr Busnes yr ysgol drwy system archebu ar-lein.

%d bloggers like this: