04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Castell-nedd Port Talbot dechrau ail rownd o alwadau lles i breswylwyr sy’n gwarchod

BYDD Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dechrau ei hail rownd o alwadau’r wythnos hon i wirio lles y preswylwyr hynny sydd wedi’u cynghori i warchod rhag COVID-19.

Gwneir y galwadau gan Wasanaeth Diogel ac Iach CNPT y cyngor, a sefydlwyd ar ddechrau’r pandemig Coronafeirws y llynedd i gefnogi preswylwyr nad oes ganddynt neb i’w helpu gyda thasgau pob dydd. Gwnaed y rownd gyntaf o alwadau ym mis Mai y llynedd yn ystod cyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud.

Nod y galwadau ffôn fydd cael gwybod sut mae preswylwyr yn ymdopi a darganfod a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnynt i wneud pethau fel siopa, casglu meddygaeth, tasgau pob dydd eraill neu a hoffent gael rhywun i siarad ag e’ os ydynt yn teimlo’n unig.

I’r rheini y mae angen cymorth arnynt, gall y gwasanaeth eu cyfeirio at fusnesau ac archfarchnadoedd lleol sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu neu eu cysylltu â grwpiau neu wirfoddolwyr cymunedol lleol i ddarparu’r help y mae ei angen arnynt.

Ni fydd unrhyw aelod o’r gwasanaeth yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol neu fanylion banc ar unrhyw adeg. Os bydd unrhyw un yn ansicr ynghylch dilysrwydd yr alwad, gall ffonio Gwasanaeth Diogel ac Iach CNPT yn uniongyrchol ar 01639 686868.

Meddai’r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,

“Mae Gwasanaeth Diogel ac Iach CNPT yma i helpu ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn ystod y pandemig. Rwy’n ymwybodol bod llawer o bobl yn ddigon ffodus i gael teulu, ffrindiau a chymdogion gerllaw sy’n gallu eu helpu, ond nid dyna’r achos i bawb.

“Byddwn yn gwneud hyd at 6000 o alwadau i ofyn sut mae pobl yn ymdopi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael os bydd ei angen arnynt.”

Mae Diogel ac Iach CNPT yn darparu ymateb partneriaeth i bandemig Coronafeirws, ac fe’i sefydlwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, grwpiau cymunedol, cymdeithasau tai a busnesau i sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i’r rheini y mae ei hangen arnynt.

I gysylltu â’r gwasanaeth, ffoniwch 01639 686868 (8.30am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)

%d bloggers like this: