04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Gwynedd yn lansio ‘Cynllun Prynu Cartref Gwynedd’

BYDD cynllun rhannu ecwiti ‘Cynllun Prynu Cartref Gwynedd’ i helpu pobl gymwys ar draws Gwynedd i brynu tŷ ar y farchnad agored yn cael ei lansio ar 13 Medi gan Gyngor Gwynedd, mewn partneriaeth gyda Tai Teg a Llywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Prynu Cartref eisoes ar gael yn genedlaethol, ond mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymestyn y Cynllun hwnnw ymhellach, trwy gyfuno arian o’r Premiwm Treth Ail Gartrefi ac arian gan y Llywodraeth. Golygai hyn bod gwerth £13m o fenthyciadau ecwiti ar gael er mwyn rhoi cyfle i fwy byth o bobl brynu cartref oddi ar y farchnad agored yn eu cymuned leol. Mae’r cyllid yn cynnwys buddsoddiad o £8.5m gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Beilot Ail Gartrefi Dwyfor.

Y prif addasiadau i’r Cynllun ar ei newydd wedd yw:

Gellir benthyg rhwng 10% a hyd at 50% o werth yr eddo;

Caniatáu ceisiadau gan aelwydydd ag incwm o hyd at £60,000 (£45,000 yn flaenorol);

Wedi cynyddu uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu i hyd at £300,000; a hefyd

Cynnydd sylweddol i’r gyllideb (o tua £300,000 y flwyddyn i £13m dros gyfnod o bedair blynedd) er mwyn gallu cynnig help i ragor o bobl.

Noder y bydd y telerau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau’n gyfredol ac yn berthnasol i sefyllfa Gwynedd.

Mae gwybodaeth lawn am y Cynllun i’w weld ar safle we’r Cyngor (yma: www.gwynedd.llyw.cymru/prynucartref) ynghyd â gwybodaeth am sut i wneud cais.

Cynllun i brynwyr tro cyntaf, neu i unigolion a theuluoedd sy’n cael trafferth fforddio prynu cartref addas ar y farchnad agored, yw Cynllun Prynu Cartref Gwynedd. Mae’r nifer o bobl sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad yn uchel, ac mae Cynllun Prynu Cartref Gwynedd yn ymgais i gynnig cymorth i’r bobl hynny.

Gellir benthyg y gwahaniaeth rhwng pris eiddo a’r hyn y gall darpar brynwyr ei gynnig ar ffurf morgais a blaendal. Er enghraifft, pe byddai unigolyn cymwys eisiau prynu eiddo gwerth £200,000, ac mae ganddynt flaendal o £10,000 (5%), ac yn gallu cael morgais o £150,000, gallwn fenthyca £40,000 iddynt er mwyn eu galluogi i brynu’r eiddo.

Y nod trwy hyn yw gwneud tai yn fforddiadwy i drigolion sy’n cael trafferth cael morgais digonol i brynu tŷ ar y farchnad agored yn eu hardal leol.

Un o nifer o gynlluniau’r Cyngor i gefnogi pobl i ddod o hyd i gartref yn eu cymuned yw’r Cynllun Prynu Cartref Gwynedd. Dyma rai o gynlluniau eraill y Cyngor:

Tŷ Gwynedd – cynlluniau i godi tai fforddiadwy canolraddol (www.gwynedd.llyw.cymru/tygwynedd). Mae’r datblygiad cyntaf yng Nghoed Mawr, Bangor, newydd dderbyn caniatâd cynllunio (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Newyddion/Datganiadau-ir-wasg/Medi-2022/Datblygiad-cyntaf-tai-Cyngor-Gwynedd-yn-derbyn-caniatad-cynllunio.aspx)

Tai gwag – ymgais i ddod â thai gwag y Sir yn ôl i ddefnydd trwy brynu ac adnewyddu, neu gynnig benthyciadau a grantiau i drigolion lleol.

Prynu tiroedd – er mwyn codi tai yn y dyfodol, byddwn yn edrych ar brynu tiroedd addas ar draws y Sir. Mae’r Cyngor newydd brynu ei dir cyntaf dan y Cynllun Gweithredu Tai ym Morfa Nefyn (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Newyddion/Datganiadau-ir-wasg/Awst-2022/Cyngor-Gwynedd-yn-prynu-tir-datblygu-i-godi-cartrefi-canolraddol-ym-Mhen-Llyn.aspx)

Prynu tai – Prynu tai oddi ar y farchnad agored er mwyn eu gosod i drigolion lleol ar rent fforddiadwy.

Cynyddu stoc dai cymdeithasol – cydweithio gyda’r Cymdeithasau Tai i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ar draws y Sir.

Meddai Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Trwy’r Cynllun Gweithredu Tai, mae gan y Cyngor weledigaeth glir i helpu pobl leol allu byw mewn cartrefi fforddiadwy ac o safon yn eu hardal. Rydym yn gwneud hynny mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys prynu tai, prynu tiroedd, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, adeiladu tai newydd, a chynlluniau fel Prynu Cartref Gwynedd fydd yn gwneud prynu tŷ ar y farchnad agored o fewn cyrraedd i bobl Gwynedd.

“Mewn cyfnod mor anodd, bydd yr addasiadau mae’r Cyngor wedi’i wneud, diolch i gydweithio gyda Grŵp Cynefin, Llywodraeth Cymru a Pheilot Dwyfor yn golygu bod y Cynllun yma yn caniatáu i hyd yn oed mwy o bobl ar draws Gwynedd fanteisio ar y Cynllun a gallu fforddio i fyw yn lleol.

“Dw i’n annog unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth i ymweld â gwefan y Cyngor, ac os ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun, ewch i gofrestru efo Tai Teg cyn gynted â phosib.”

Dywedodd Catrin Roberts, Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy Grŵp Cynefin:

“Mae Tai Teg, a weinyddir gan Grŵp Cynefin, yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru er mwyn cynnig y cynllun Prynu Cartref i drigolion o Wynedd. Fel mae pawb yn ymwybodol mae prisiau tai wedi cynyddu i’r fath raddau fel bod angen cynnig pob cymorth bosib i gefnogi prynwyr tro cyntaf i ymgartrefu yn eu cymuned a chael cartref sydd yn addas, fforddiadwy a diogel i fyw ynddo.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo hyd at £8.5 miliwn er mwyn ariannu cynllun Prynu Cartref Gwynedd. Bydd hyn yn rhan allweddol o Gynllun y Peilot Ail Gartrefi a gynhelir hyd at 2024 yn Nwyfor, gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i ddarparu atebion ystyrlon i bobl leol.”

%d bloggers like this: