03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Mynwy yn gweithio gyda gorsaf wasanaeth i gasglu sbwriel diolwg

MAE partneriaeth rhwng grŵp manwerthu Euro Garages UK a Chyngor Sir Fynwy wedi arwain at well amgylchedd yn dilyn sesiwn casglu sbwriel ar ffordd leol yn agos at orsaf wasanaeth ar yr A449 ger Rhaglan.

Roedd rheolwyr Euro Garages UK Trefynwy – sy’n rhedeg yr orsaf wasanaeth – yn bryderus iawn am faint o sbwriel oedd ar hen gefnffordd Rhaglan i Drefynwy a gwnaethant gysylltu â’r cyngor i wneud cais i reoli traffig er mwyn diogelu casglwyr sbwriel yn gweithio ar y ffordd brysur. Gan weithio mewn tywydd gwlyb a gwyntog, mewn dim o dro roedd y tîm o ddeg casglwr sbwriel a chwech o staff cymorth wedi casglu 16 sachaid o gynnyrch gwastraff yn ogystal â rhannau o geir ac eitemau mawr eraill. Darparodd y cyngor ddau yrrwr fan, dau reolydd traffig a saith casglwr sbwriel i ychwanegu at weithlu Euro Garages.

Roedd y sbwriel yn cynnwys caeadau a chaeadau diodydd, pecynnau, poteli plastig a gwydr, caniau, llenni o ddefnydd lapio plastig a menig plastig untro. Roedd y rhan fwyaf yn agos at ardal lle mae defaid ac wyn yn pori, gan achosi risg i anifeiliaid fferm, yn arbennig anifeiliaid ifanc chwilfrydig.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am wastraff ac ailgylchu:

“Roeddem yn falch iawn i gydweithio gyda Euro Garages UK i glirio cymaint o sbwriel ac mae hyn yn enghraifft ardderchog o weithio tîm gyda busnes lleol – rhywbeth yr hoffwn ei ymchwilio pellach.

“Mae faint o sbwriel a welaf ar ymyl ein ffyrdd yn ofnadwy. Mae mor rhwydd rhoi eitem yn y bin, ond mae’n cymryd llawer iawn o ymdrech i’w chlirio o ochr y ffordd. Mae’n drist gweld wyn bach yn prancio mewn caeau gyda sbwriel yn difetha’r gwrychoedd. Mae angen i bawb chwarae eu rhan wrth gadw Sir Fynwy yn hardd yn ogystal ag osgoi niwed i anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt a achosir gan wastraff wedi ei daflu.”

Ychwanegodd Sonia Murphy, rheolwr safle Trefynwy Euro Garages UK:

“Mae’n rhwystredig gweld cymaint o sbwriel ar hyd y ffordd. Rydym yn gweitho’n galed i gadw ein safle yn rhydd o sbwriel; rydym yn rhoi digon o finiau i gwsmeriaid ac ar fin gosod mwy. Rydym yn ystyried y ffordd orau i orfodi’r gyfraith ar sbwriel ar ein safleoedd gan fod yn rhaid i ni gau ffyrdd dynesu ar gyfnodau tawel er mwyn casglu sbwriel wrth ochr allfannau’r safle.”

%d bloggers like this: