04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith gwella draenio ar A4058 yn Nhonypandy

BYDD gwaith sylweddol yn cael ei gynnal ar yr A4058 yn Nhonypandy, ar y rhan o’r ffordd i’r de o siop Asda, a hynny er mwyn gwella draenio. O ganlyniad i hyn, bydd goleuadau traffig dros nos yn cael eu gosod yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid grant drwy gynllun Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru er mwyn gosod system ddraenio gyfun newydd ar 230 metr o’r cwrb presennol. Hefyd, bydd twll archwilio newydd yn cael ei adeiladu ar yr ymyl, ynghyd â draen hidlo newydd a fydd yn cysylltu â’r system ddraenio. Bydd y gwaith yma’n gwella sut mae’r ffordd yn draenio pan fydd glaw trwm.

Cafodd cwmni Horan Construction Ltd ei gontractio gan y Cyngor i gynnal y gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Iau, 18 Mawrth. Mae disgwyl i’r gwaith bara tua phedair wythnos.

Er mwyn cynnal y gwaith yn ddiogel, rhaid i’r contractwr gau lôn a gosod goleuadau traffig dwyffordd ar y rhan o’r A4058 rhwng Asda a Chylchfan Tonypandy.

Bydd y contractwr yn cynnal y gwaith mwyaf swnllyd rhwng 7pm ac 11pm, a hynny er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol. Bydd trigolion lleol yn derbyn llythyr sy’n rhoi gwybod iddyn nhw am y gwaith ac yn cynnwys rhif ffôn y Tu Allan i Oriau Swyddfa er mwyn cysylltu â’r garfan ar y safle.

Dyma’r gwaith gwella diweddaraf ledled y Fwrdeistref Sirol sy’n rhan o raglen Ffyrdd Cydnerth. Cafodd y gwaith ar yr A4119, sef Ffordd Osgoi Tonypandy ac ar yr A4058 ger Cylchfan Gorsaf Reilffordd Tonypandy ei gwblhau yn ddiweddar.

Roedd gwaith sylweddol i wella draenio ar yr A4059, sef Ffordd Osgoi Aberdâr, hefyd wedi dechrau ar 15 Mawrth, a chafodd gylïau ychwanegol eu gosod ar y B4275 yn Abercynon yr wythnos ddiwethaf, yn ogystal â man atgyweiriadau i’r ffordd.

%d bloggers like this: