MAE Cyngor Blaenau Gwent wedi parhau i sicrhau cynnydd wrth gynllunio ar gyfer nifer o brosiectau cyffrous i wella ysgolion er gwaethaf pandemig COVID-19.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen flaengar Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r Cyngor yn parhau i weithio ar foderneiddio ei stad ysgolion drwy amrywiaeth o ddatblygiadau newydd a gwaith gwella sylweddol i adeiladau ysgol presennol. Caiff yr holl weithiau eu dynodi ar sail blaenoriaeth ac asesiad addasrwydd/cyflwr o’r stad ysgolion.
Ym Mlaenau Gwent mae’r rhaglen eisoes wedi cyflawni adeiladu ysgolion cynradd newydd yn Abertyleri a Six Bells (y ddwy yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri), ailwampio helaeth ar Ysgol Gynradd Ystruth a gwaith ailwampio i Ysgol Gyfun Tredegar.
Mae’r Cyngor yn awr yn symud ymlaen gyda Band B y rhaglen, sy’n rhedeg tan 2025, a bydd yn gweld buddsoddiad o tua £26m yn y stad ysgolion yn lleol, yn cynnwys ysgol gynradd Gymraeg newydd.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys:
Ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda gofal plant cysylltiedig yn Nhredegar;
Ysgol gynradd newydd gyda gofal plant cysylltiedig yng Nglyncoed, Glynebwy;
Ailwampio ysgolion uwchradd yn Nhredegar, Brynmawr ac Abertyleri;
Ailwampio ysgolion cynradd Ysghol Gymraeg Bro Helyg, Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen, Ysgol Gynradd Cwm ac Ysgol Gynradd Beaufort; a hefyd
Llain 3G yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr
Amcanion Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw trin y blaenoriaethau allweddol dilynol megis:
Codi safonau, yn neilltuol ar Gyfnod Allweddol 4;
Gwella addasrwydd a chyflwr y stad ysgolion;
Ymarferoldeb rhaglen – arian cyfatebol a fforddiadwyedd;
Cynaliadwyedd a gostwng costau refeniw;
Cynyddu cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg;
Diwallu anghenion oedolion bregus; a hefyd
Cael yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg:
“Mae darparu’r safonau addysgol a’r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau, yn ogystal â gofalu am lesiant ein plant a phobl ifanc, yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau i ni.
“Mae gwneud yn siŵr y gall dysgwyr gael mynediad i’r cyfleusterau modern gorau oll yn rhan o hyn. Mae gennym hanes o lwyddiant o weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ar brosiectau sy’n galluogi ein disgyblion i gael mynediad i amgylcheddau dysgu modern a diddorol lle gallant ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m