04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws

GALL gweithwyr critigol yn Sir Gaerfyrddin bellach wneud cais am ofal plant am ddim ar gyfer plant 0-3 oed yn ystod y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn darparu cyllid i bob awdurdod lleol yng Nghymru i gefnogi cost gofal plant i blant cyn oed ysgol ar gyfer rhieni y mae eu swyddi yn hanfodol i ymateb Cymru i COVID-19.

Bydd plant yr ystyrir eu bod yn agored i niwed hefyd yn cael eu cynnwys yn y cynllun.

O dan Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws, mae rhiant / gwarcheidwad yn gymwys i gael gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth:

• Os oes ganddynt blentyn, neu blant, cyn oed ysgol; ac

• Maent yn weithiwr critigol;

Mae’n bwysig bod rhieni yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn cadw eu plant gartref lle bo modd, er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws (Covid-19). Fodd bynnag, os ydych yn weithiwr critigol, ac na all eich plentyn aros gartref, yna bydd eich gofal plant yn cael blaenoriaeth.

Dim ond ar gyfer eu horiau gwaith y dylai rhieni wneud cais am ofal plant; ac os na all gŵr/gwraig neu aelod arall o’r teulu ofalu am y plentyn/plant.

Bydd angen dangos tystiolaeth o’ch statws gweithiwr critigol fel rhan o’r broses ymgeisio.

Mae’n rhaid i bob rhiant, gan gynnwys y rheiny sydd eisoes â darparwr gofal plant, gwblhau’r ffurflen gais ar-lein bob pythefnos i archebu eu gofal plant.

Bydd gweithwyr critigol sydd wedi talu am ddarpariaeth gofal plant o 1 Ebrill yn cael eu had-dalu.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’n hanfodol ein bod yn darparu’r cymorth hwn ar gyfer ein gweithwyr critigol, sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

“Bu’n rhaid i staff y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi’r cynllun hwn ar waith yn gyflym iawn a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled. Hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu hamynedd wrth i ni sefydlu’r broses ymgeisio.

“Mae gan ddarparwyr gofal plant rôl allweddol i’w chwarae i’n helpu i gynnal ein gwasanaethau hanfodol ac rwyf hefyd am ddiolch iddyn nhw a’u holl staff am y gwaith gwych y maent yn ei wneud wrth gefnogi ein hymateb i’r argyfwng coronafeirws yn ystod y cyfnod hwn sy’n anodd i bawb.”

Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer rownd gyntaf y ceisiadau yw dydd Iau, 23 Ebrill am 3pm, bydd ymgeiswyr yn cael e-bost i gadarnhau eu cymhwysedd.

I gwneud cais am ofal plant ewch i newyddion,sirgar.llyw.cymru/coronafeirws

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScRQoSYzEFgSdFggZKHMeS8Vdmonjrg_xScPgxxX3Hx3af2Ug/viewform?usp=sf_link

Ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gael gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant sydd ar agor i weithwyr critigol yn ystod y pandemig coronafeirws; neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i gwybplant@sirgar.gov.uk.

%d bloggers like this: