05/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun Tŷ Gwynedd cynnig cartrefi modern o safon

AM y tro cyntaf ers 30 mlynedd, bydd Cyngor Gwynedd yn adeiladu tai fydd yn gartrefi modern o safon i bobl y sir allu eu prynu neu eu rhentu.

Trwy’r Cynllun ‘Tŷ Gwynedd’, mae’r Cyngor wedi gosod uchelgais o adeiladu 100 o gartrefi newydd mewn cymunedau ar draws y sir dros y blynyddoedd nesaf. Bwriad y cynllun uchelgeisiol ydi cynnig cartrefi fforddiadwy canolraddol i’r nifer o bobl leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ac nad ydynt yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Gyda gwaith yn bwrw ymlaen ar gynlluniau, mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai’r cynllun fod yn addas iddyn nhw i gofrestru eu diddordeb trwy ymweld â  www.gwynedd.llyw.cymru/ty-gwynedd

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Ein bwriad wrth fuddsoddi yng Nghynllun Gweithredu Tai Gwynedd ydi sicrhau fod pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas, gwyrdd a fforddiadwy yn eu cymunedau.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

“Y gwir plaen ydi ein bod ni mewn argyfwng tai sy’n peryglu dyfodol cymunedau Gwynedd. Sefyllfa lle mae pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad – ac rydan ni fel Cyngor yn benderfynol o newid hyn.

“Dyna pam ein bod yn cymryd y cam cadarnhaol yma o adeiladu tai newydd ein hunain a fydd yn cynnig cartref am oes i deuluoedd Gwynedd. Nid yn unig mae’n dangos ein gweledigaeth i sicrhau cymunedau ffyniannus i’r dyfodol, ond yn bwysicach na hynny rydym yn rhoi’r ymrwymiad yna ar waith.

“Trwy gynllun arloesol ‘Tŷ Gwynedd’ bydd y Cyngor, yn mynd ati i wneud gwahaniaeth go-iawn yn y farchnad dai leol wrth adeiladu tai modern o ansawdd fydd yn cynnig cartrefi i bobl Gwynedd ar draws y sir.

“Bydd ‘Tŷ Gwynedd’ yn cynnig cartref ynni effeithlon a fydd yn fforddiadwy i’w gynnal i’r dyfodol ar sail rhan-ecwiti neu rent fydd yn fforddiadwy. Bydd y tai wedi eu dylunio mewn ffordd y bydd modd eu haddasu – wrth i amgylchiadau pobl neu deuluoedd newid, bydd ‘Tŷ Gwynedd’ yn cynnig opsiynau i addasu fel mae anghenion yr aelwyd yn newid.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gyhoeddi manylion am y datblygiadau ‘Tŷ Gwynedd’ cyntaf dros yr wythnosau nesaf.

“Bydd yr holl wybodaeth fydd yn cael ei gyflwyno gan bobl wrth iddyn nhw gofrestru diddordeb yn ein helpu i gynllunio lle mae’r angen ac am ba fath o dai.”

 

 

%d bloggers like this: