10/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllunio Siwmper Nadolig ar gyfer Dewin – yn yr Eisteddfod!

BYDD Mudiad Meithrin ac Achub y Plant yn lansio partneriaeth codi arian newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i gyd-fynd â Diwrnod Siwmper Nadolig eleni.

Cynhelir y lansiad ar Ddydd Mercher, 7 Awst am 3.00pm ar stondin Mudiad Meithrin, lle gofynnir i blant a’u teuluoedd i gynllunio a chreu Siwmper Nadolig ar gyfer Dewin, un o gymeriadau poblogaidd y Mudiad, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni.

Cynhelir Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant ar Ddydd Gwener 13fed Rhagfyr eleni, a disgwylir y bydd miliynau o bobl yn cymryd rhan, i godi arian i blant bregus ar draws y byd. Mae’r arian a godir yn ystod yr ymgyrch godi arian blynyddol hefyd yn cynorthwyo gwaith rhaglenni ar lawr gwlad yn y Deyrnas Unedig a Chymru, gan roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant yn y blynyddoedd cynnar. Mae cymryd rhan yn syml, drwy gofrestru ar christmasjumperday.org, gwisgo siwmper Nadolig neu trwy addurno hen siwmper sydd gennych yn barod, a chyfrannu £1.

Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Ddiwrnod Siwmper Nadolig, bydd plant ac oedolion sy’n mynychu grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin, yn cael eu hannog i drefnu stondinau prynu a gwerthu a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft Siwmper Nadolig.

Gofynnir i rieni, aelodau teulu, staff ac aelodau o’r gymuned i ddod â Siwmperi Nadolig ail law, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft i roi bywyd Nadoligaidd newydd i hen siwmperi, i’w gwerthu a’u gwisgo ar Ddiwrnod Siwmper Nadolig. Bydd yr arian a godir o werthiant y Siwmperi Nadolig yn mynd tuag at waith y Cylchoedd Meithrin, a bydd y rhodd o £1 ar Ddiwrnod Siwmper Nadolig ei hun yn mynd i Achub y Plant.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Dewin wedi cael llawer o hwyl yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni, ond mae’n teimlo braidd yn drist na fydd ganddo siwmper Nadoligaidd i’w gwisgo ar Ddiwrnod Siwmper Nadolig eleni, a byddwn yn gofyn i blant ac oedolion sy’n dod i’n stondin yn yr Eisteddfod ar y dydd Mercher i gynllunio a chreu un ar ei gyfer. Mae hwn yn syniad gwych i godi arian i gefnogi gwaith Mudiad Meithrin ac Achub y Plant, sef dau sefydliad sy’n canolbwyntio ar roi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru i elwa o ofal a phrofiadau addysg blynyddoedd cynnar. Mae’r fenter hefyd yn rhoi cyfle i’n grwpiau ni gynnal eu hunain fel busnesau, ac mae’n adeiladu ar bwysigrwydd chwarae a chael rhieni i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, gan godi ymwybyddiaeth o’u cyfraniad i’r gymuned fyd-eang ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Louise Davies, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru:
“Dyma ffordd wych o adeiladu ar ein partneriaeth â Mudiad Meithrin yn ystod ein canmlwyddiant eleni. Mae’r ddau sefydliad yn deall pa mor hanfodol yw plentyndod cynnar i ddatblygiad plentyn, a’r rôl mae’n ei chwarae wrth ein ffurfio i’r math o bobl y byddwn yn datblygu i fod wrth inni dyfu’n oedolion. Ond yn anffodus, mae gormod o blant yng Nghymru yn cael trafferth ymdopi erbyn iddyn nhw ddechrau ysgol hyd yn oed, yn enwedig y rhai mwyaf tlawd, ac o’r herwydd bydd llawer ohonynt yn parhau ar ei hôl hi ar hyd eu hoes. Rydym am i blant gael y cychwyn gorau posib mewn bywyd, bod yn hapus, a chael bob cyfle i gael y cychwyn gorau posib i’w taith addysgol, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol yn hyn o beth.”

%d bloggers like this: