03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cystadleuaeth Antholeg Ysgrifennu Creadigol 2021 Cyngor RCT

MAE awduron a beirdd lleol yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu gweithiau gwreiddiol i’w cynnwys mewn antholeg newydd sbon o gerddi a straeon byrion.

Mae’r gystadleuaeth ysgrifennu creadigol, sy’n cael ei chynnal gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn agored i drigolion o bob oed yn y Fwrdeistref Sirol.  Does dim unrhyw gyfyngiad ar y pwnc, ond cadwch eich straeon byrion i 2000 o eiriau ar y mwyaf.

Dylai pob stori fer / cerdd gael ei chyflwyno ar ffurf electronig os yw’n bosibl.

Mae modd hefyd anfon ceisiadau drwy’r post at Richard Reed, Llyfrgell Treorci, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6UD.

Bydd straeon a cherddi yn cael eu cyhoeddi ar yr un ffurf ag y maen nhw’n cael eu cyflwyno. Mae modd cyflwyno cerddi a straeon yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun, 31 Mai.

Cafodd Antholeg Ysgrifennu Creadigol y Cyngor ei gohirio’r llynedd o ganlyniad i bandemig byd-eang COVID-19, ond bydd yr holl waith a ddaeth i law y llynedd yn cael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys yn rhifyn 2021.

Meddai’rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:

“Rwy’n falch iawn bod modd i’r Antholeg Ysgrifennu Creadigol ddychwelyd eleni gan ei bod yn llwyfan hyfryd i’n hawduron a’n beirdd arddangos eu doniau i gynulleidfa ehangach.

“Mae gyda ni gyfoeth o dalent yn ein Bwrdeistref Sirol ac rydyn ni wedi cynhyrchu nifer o awduron llwyddiannus dros y blynyddoedd. Un o’r rhai mwyaf cynhyrchiol wrth gwrs yw’r ddiweddar Elaine Morgan OBE.

“Mae’n hyfryd bod modd i’r Cyngor gynnig cyfleoedd i awduron ar lawr gwlad gyhoeddi eu gwaith, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau yn dod i law ar gyfer antholeg 2021.”

Ysgrifennodd Elaine Morgan OBE, o Gaegarw, Aberpennar, nifer o lyfrau ar anthropoleg esblygiadol, yn enwedig y ddamcaniaeth fod y ddynolryw wedi esblygu ar lan y môr. Mae ei llyfrau’n cynnwys y canlynol: The Descent of Woman (1972)The Aquatic Ape (1982)The Scars of Evolution (1990)The Descent of the Child (1994), The Aquatic Ape Hypothesis (1997) a The Naked Darwinist (2008).

Derbyniodd Elaine Morgan OBE Ryddfraint Rhondda Cynon Taf yn 2013, a bu farw dri mis yn ddiweddarach yn 92 oed.

 

%d bloggers like this: